Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Academi Heddwch i Gymru

Jill Evans

Erthygl gan Jill Evans ASE, Is-Lywydd Plaid Cymru, Cadeirydd CND Cymru

Mae gennym yng Nghymru ymrwymiad cryf i heddwch. Dros y canrifoedd bu Cymry yn amlwg yn y mudiad heddwch, nid yn unig yng Nghymru neu ym Mhrydain ond yn fyd eang. Gellir defnyddio sawl enghraifft; bob blwyddyn mae ein pobl ifanc yn anfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da at bobl ifanc y byd; o Gaerdydd dechreuodd yr orymdaith i Gomin Greenham a ddaeth yn symbol o brotest heddychlon yn rhyngwladol; a'n dyheadau i fod yn genedl ddi-niwclear.

Ond beth yw ystyr hyn i gyd os na allwn eu gwireddu? Fel rhywun sydd yn credu mewn annibyniaeth i Gymru, mae'r ateb tymor hir yn glir. Ond am y tro beth bynnag, mae gennym lywodraeth ein hunain heb y pwerau i ffurfio polisi "amddiffyn" i Gymru.

Canlyniad hynny yw bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud gan y llywodraeth Brydeinig, heb unrhyw ystyriaeth o'n traddodiad o ymgyrchu dros heddwch a chyfiawnder.

Felly cynlluniau'r llywodraeth honno sydd gyda ni, fel preifateiddio hyfforddiant y lluoedd arfog a'i rhoi i gyd mewn academi filwrol enfawr yn Sain Tathan; cynlluniau ar gyfer gorsaf niwclear newydd yng Nghymru pan rydyn ni'n dal i ddelio ag effaith Chernobyl ar ein mynyddoedd; ac ymgyrch recriwtio dwys y fyddin sydd yn cynnwys pobl ifanc ein ysgolion.

Ond sut allwn ni newid pethau nawr?

Rwy'n credu bod yr ateb yn gorwedd yn rhannol beth bynnag mewn sefydliad neu academi heddwch. Ceir sefydliadau felly mewn nifer o wledydd eraill ond yr un rydw i'n fwyaf cyfarwydd â hi yw'r un yn Fflandrys ym Mrwsel. Rwyf wedi cwrdd â phennaeth a staff Sefydliad Heddwch Fflandrys i ddysgu mwy am eu gwaith. Prif ffocws eu gwaith yw ymchwilio i mewn i effaith penderfyniadau gwleidyddol a rôl Fflandrys mewn helpu adeiladu heddwch rhyngwladol. Mae senedd Fflandrys yn gorfod ymgynghori â nhw ac, yn fwy na hynny, mae rhaid iddynt gymryd y cyngor i ystyriaeth pan yn penderfynu ar bolisïau perthnasol, neu rhoi rhesymau dros beidio gwneud.

Rwy'n credu y byddai corff fel hyn yng Nghymru, a fyddai'n cael ei ariannu gan y llywodraeth ond yn annibynnol iddi, yn creu meddylfryd hollol wahanol yn y senedd ei hun. Petasai holl oblygiadau penderfyniadau fel adeiladu academi filwrol yn cael eu gosod o flaen gwleidyddion a'r cyhoedd, byddai'r ymateb yn wahanol. Ni fyddai'r drafodaeth yn canolbwyntio ar faint o swyddi a ellid eu creu, ond ar effaith y datblygiad ar bob agwedd o'n diwylliant, ein economi a'n hamgylchedd a delwedd Cymru yn y byd.

Byddai'r Academi Heddwch hefyd yn chwarae rôl amlwg mewn addysg ac astudiaethau heddwch, yn hyrwyddo gwerthoedd di-drais ac adeiladu cysylltiadau rhyngwladol.

Felly byddai sefydlu Academi Heddwch ('Peace Institute' yn Saesneg) yn gam mawr tuag at wireddu ein hamcanion. Mae atyniad y syniad yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o fudiadau gwahanol sydd wedi datgan cefnogaeth iddo'n barod. Llynedd, mabwysiadodd Plaid Cymru bolisi yn cefnogi'r syniad o Academi Heddwch, a phetasai'r pleidiau eraill yn ei wneud hefyd byddai'n bosib cael cefnogaeth traws-bleidiol. Fy amcan i yw gweld ymrwymiad i sefydlu Academi Heddwch yng Nghymru ym maniffesto pob plaid yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011. Yna, wrth ateb y cwestiwn "A oes heddwch?", fe allen ni fel cenedl ateb, gyda hyder, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i'w sicrhau.

Am y diweddaraf o'r ymgyrch dros yr Academi Heddwch ewch i www.walesforpeace.org.uk.

Os ydych am gefnogi'r ymgyrch, gallwch lawrlwytho deiseb dros Academi Heddwch i Gymru.