Addysg
Mae Cymdeithas y Cymod yn cynnal gweithgareddau i addysgu a datblygu sgiliau ei haelodau, megis y "gwylnosau" blynyddol pan geir penwythnos o weithdai a thrafodaeth. Cynhelir gwylnos 2009 ar 27-28 Tachwedd yng nghanolfan Ffald y Brenin, Sir Benfro. Bydd Hefin Wyn yn siarad am y frwydr lwyddiannus i gadw mynyddoedd y Preselau oddi wrth afael y fyddin. Mae croeso i bawb. Gweler y digwyddiadur am fanylion.
Llawlyfr Hyfforddi Didreisedd i Gymru
Mae Cymdeithas y Cymod wedi noddi cyhoeddi pecyn hyfforddi didreisedd a gafodd ei baratoi fel rhan o brosiect gan Cynefin y Werin. Awduron y pecyn yw Delyn Gwynfyd Harris o Goleg y Brifysgol Aberystwyth, Ben Gregory, Llywydd Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Arfon, ac Arfon Rhys, Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod.
Pwrpas y pecyn yw rhoi canllawiau ac adnoddau i hyfforddwyr grwpiau o bobl sydd am ddysgu mwy am sut i ddatrys gwrthdaro mewn dulliau di-drais. Ceir hanes sefyllfaoedd o wrthdaro a hanes mudiadau yng Nghymru a ddefnyddiodd ddulliau di-drais i'w datrys. Mae yna ganllawiau ac adnoddau yn y pecyn ar gyfer rhedeg cyfres o naw gweithdy ar ddidreisedd. Bydd pob gweithdy yn canolbwyntio ar agweddau gwahanol o'r pwnc megis wynebu gwrthdaro, dadansoddi gwrthdaro, adweithio i rym, sut i ymgyrchu, natur didreisedd ac ati.
Gobeithir gweld gweithdai yn cael eu cynnal ar draws Cymru gan grwpiau heddwch lleol, capeli ac eglwysi, mudiadau gwirfoddol ac ati. Mae'r pecynnau yn addas ar gyfer hyfforddwyr a thiwtoriaid sy'n gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc hŷn ac oedolion.
Mae'r pecyn ar werth am £15 yr un. I archebu copi cysylltwch â Del Harris ar 01974-831575.
Cydraddoldeb rhywedd ("gender")
Yn seiliedig ar waith y Women Peacemakers Program gan Gymdeithas y Cymod Ryngwladol ysgrifennodd Arfon Rhys, Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, ddeunyddiau ar gyfer diwrnod o hyfforddiant i gapeli a mudiadau gwirfoddol a chymunedol eraill ar gydraddoldeb rhywedd o fewn eu mudiadau. Gallwch lawrlwytho'r deunyddiau am ddim yn Gymraeg a Saesneg.
Adnoddau i ysgolion
Rhoes Cymdeithas y Cymod nawdd i brosiect Cyfanfyd a'r Ganolfan Addysg Byd a gynhyrchodd adnodd i ysgolion â'r teitl Newid Byd? Gwladychu, Gwrthdaro a Chymuned. Paratôdd Angharad Tomos ac Elenid Jones yr adnodd iaith Gymraeg yma ar gyfer addysg draws-gwricwlaidd. Addasiad ydy o o'r pecyn Colonialism, Conflict and Society (DEC [Birmingham] a Trocaire, Dublin, 1993). Mae'n trafod y pynciau llosg o wladychu, gwrthdaro a chymuned drwy fethodoleg Addysg Datblygiad, sy'n tanlinellu'r pwysigrwydd o ddysgu trwy brofiad gan ddefnyddio dulliau cyfranogol megis chwarae rôl. Cewch lawrlwytho'r pecyn yn rhad ac am ddim.
Mae'r Llawlyfr Hyfforddi Didreisedd i Gymru (gweler uchod) wedi cael ei ddefnyddio mewn rhai colegau addysg bellach ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae rhan o'r cymhwyster yn cynnwys addysg bersonol a chymdeithasol sydd yn helpu'r myfyriwr i archwilio materion yn y byd modern: teulu, iechyd, cydberthnasau, dinasyddiaeth a datblygiad cynaliadwy. Mae datrys gwrthdaro mewn modd di-drais yn rhan bwysig o addysg bersonol a chymdeithasol, ac mae'r llawlyfr o gymorth i athrawon i addysgu'r pwnc i'w myfyrwyr.
Gwaith ieuenctid
Yng ngwanwyn 2006 cafodd grŵp o bobl ifanc nawdd gan y Gymdeithas i wneud astudiaeth dichonoldeb ar gyfer rhwydwaith ieuenctid rhyngwladol dros heddwch.
