Recriwtio'r Fyddin
Mae'r Gymdeithas wedi cynhyrchu taflen i'w dosbarthu i bobl ifanc i'w hannog i beidio ag ymuno yn y Fyddin Brydeinig.
Milwyr dan oed
Mewn ateb yn Senedd Llundain i gwestiwn gan y Democratiaid Rhyddfrydol datgelwyd fod y Fyddin wedi anfon 15 o filwyr o dan 18 oed i ymladd yn Irac. Mae hyn yn erbyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn 1989 sy'n datgan " bydd gwladwriaethau yn ceisio sicrhau na fydd pobl sydd dan 18 oed yn chwarae rhan uniongyrchol mewn rhyfela" Mae plant sy'n 16 oed yn gallu ymuno ym Myddin Prydain os yw eu rhieni'n cytuno. Yn wir mae 40% o filwyr Prydain wedi ymuno pan oeddynt rhwng 16 ac 17 oed. Dim ond Prydain o bob gwlad yn Ewrop sy'n anfon 'plant filwyr' 17oed i ryfela.
Mae'r broses recriwtio yn dechrau ym Mhrydain pan mae plant yn ddim ond 14 oed pan mae'r fyddin yn mynd i mewn i'w hysgolion gan gynnig gwersi mewn sgiliau "arweinyddiaeth", "dinasyddiaeth" a gwersi coginio yn yr awyr agored ac ati.
Milwyr tlawd
Defnyddiodd Plaid Cymru y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gael gwybod fod adran recriwtio'r Fyddin wedi ymweld ag ysgolion uwchradd mewn ardal dlawd o Abertawe ddeg gwaith mewn blwyddyn. Yn ystod yr un cyfnod cafodd ysgolion yn ardal lewyrchus Bro Morgannwg ddim un ymweliad recriwtio gan y Fyddin. Yn amlwg mae'r fyddin yn targedi ardaloedd tlawd o Gymru megis Bangor a Wrecsam ac Abertawe. Mae'r Fyddin yn cynnig cyflog o £12,000 y flwyddyn i ddechrau i blant o ardaloedd tlawd ein gwlad.
Gofynnodd Plaid Cymru i Lywodraeth Rhodri Morgan yn ein Cynulliad Cenedlaethol atal y Fyddin rhag mynd i recriwtio mewn ysgolion, ond gwrthododd Llywodraeth y Cynulliad.
Hysbysebion y Fyddin
Mae gan y Fyddin gyllideb recriwtio o £80 miliwn bob blwyddyn. Mae angen 15,000 o filwyr ar y Fyddin bob blwyddyn, ac ar hyn o bryd y maent o dan y targed hwnnw wrth tua 2,000 o filwyr.
Tacteg newydd y Fyddin wrth recriwtio yw pwysleisio swyddi penodol megis peirianwaith, cyfathrebu, technoleg gwybodaeth ac ati, yn hytrach na'r hyfforddiant i ladd pobl a rhyfela. Maent am osod y syniad ym meddwl pobl ifanc mai "swydd" gyntaf gyffredin mewn arlwyaeth neu adeiladu sydd gan y Fyddin i'w gynnig yn hytrach na gwir waith y Fyddin sef ymladd a lladd mewn rhyfel.
Mae'r fyddin yn sôn am gymwysterau NVQ a City & Guilds yn hytrach na hyfforddi gydag arfau rhyfel. Mae ein taflen ni yn pwysleisio'r gwir am "yrfa" yn y Fyddin.
Mae rhagor a wybodaeth ar gael yn adroddiad David Gee Informed Choice? Armed forces recruitment practice in the United Kingdom
