Hawliau'r Cwrdiaid yn Nhwrci
Mae Cymdeithas y Cymod yn gwylio'n bryderus y ffordd mae gwladwriaeth Twrci yn trin y lleiafrifoedd ethnig/ieithyddol o fewn ei gwlad. Er ei bod wedi llacio'r ddeddfwriaeth rywfaint ers iddi drio ymuno yn yr Undeb Ewropeaidd, mae'n dal yn anghyfreithlon gwneud unrhyw fusnes swyddogol mewn iaith arall ond Tyrceg, ac nid yw lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cydnabod - a hynny er bod grŵp y Cwrdiaid yn unig yn 23% o boblogaeth Twrci.
Mae'r Cymdeithas y Cymod wedi bod yn lobïo Llysgenhadaeth Twrci, y Swyddfa Dramor ac Aelodau Senedd Ewrop Cymru ynglŷn â'r pwnc, a cafwyd trafodaeth amdano yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gydag Ann Clwyd AS, Hywel Williams AS a Jill Evans ASE.
Diswyddo Maer Demirbas
Ym mis Mehefin 2007 ysgrifennodd Cymdeithas y Cymod at y Swyddfa Dramor yn datgan ein pryder am y ffaith bod llys gweinyddol uchaf Twrci, sef Cyngor y Wladwriaeth, wedi barnu i ddiswyddo Abdullah Demirbas, Maer ardal Sur o Diyarbakir ynghyd â Chyngor y Fwrdeistref oherwydd bod y fwrdeistref wedi pleidleisio i roi gwasanaethau mewn ieithoedd eraill heblaw Tyrceg.
Mae'r dref yn cynnwys 24% o bobl sy'n siarad Tyrceg, 72% Cwrdeg, a nifer o ieithoedd eraill bychain. Ar sail hyn penderfynodd y dre gynnig gwasanaethau swyddogol yn yr ieithoedd yma. Mae'r erlyniad wedi gofyn i'r llys ddedfrydu Demirbas a maer tre Diyarbakir, Osman Baydemir, a ddylai fod wedi rhoi ei feto ar y cynnig, i garchar am dair blynedd a hanner. Mae'r achos yn dal i fynd yn ei flaen ar y funud.
Mae Maer Demirbas yn uchel ei barch fel lladmerydd dros hawliau diwylliannol ac ieithyddol, ac mae wedi gwneud llawer i ddiogelu a hybu iawnderau ieithyddol yn ei fwrdeistref. Mae'r ffaith iddo gael ei ddiswyddo gan atal y datblygiad ieithyddol yn ei fwrdeistref yn dangos y modd mae llywodraeth Twrci yn gorthrymu diwylliant lleiafrifoedd ei gwlad ac yn anwybyddu dymuniad democrataidd ei dinasyddion.
Gofynnodd y Gymdeithas i'r Ysgrifennydd Tramor ddod â hyn i sylw'r awdurdodau perthnasol, yn enwedig o gofio bod Twrci mewn trafodaethau ar y funud i ymuno yn yr Undeb Ewropeaidd. Byddai caniatáu Twrci i ymuno yn yr UE, cyn iddi newid ei pholisi gormesol tuag at ieithoedd lleiafrifol oddi fewn ei gwladwriaeth, yn gosod cynsail beryglus i hawliau dynol oddi fewn yr UE.
Atgyfodiad Argae Ilisu
Efallai byddwch yn cofio ymgyrch rai blynyddoedd yn ôl i atal cynllun gan lywodraeth Twrci i adeiladu argae anferthol ar draws yr afon Tigris ger Ilisu yng Nghwrdistan. Roedd yr ymgyrch yn llwyddiannus ar y pryd, ac mi dynnodd nifer o gwmnïau gorllewinol yn ôl o'r project. Ond bellach mae'r cynllun yn ei ôl gyda chefnogaeth asiantaethau gwarantu credyd yr Almaen, Awstria a'r Swistir.
Yn swyddogol, pwrpas y project ydy cynhyrchu trydan a dyfrhau tir amaethyddol. Ond mae rhai yn amau mai strategol ydy ei wir ddibenion: Byddai yn galluogi Twrci i reoli llif dŵr yr afon Tigris i lawr i Syria ac Irac. A byddai yn gyfle i waredi'r ardal o gymuned Gwrdaidd anufuddd.
Mi fyddai degau o filoedd o bobl yn colli eu cartrefi a'u bywoliaeth, y rhan fwyaf ohonynt yn Gwrdiaid. Mae disgwyl iddynt symud i'r trefi mawr yn y gobaith o gael gwaith ac felly colli eu cymuned Gwrdaidd. Gan nad ydy gwladwriaeth Twrci yn cydnabod unrhyw ddiwylliannau lleiafrifol o fewn y wlad, a chan fod hanes hir o wrthryfel yn yr ardal, all hi ddim ond fod wrth fodd y llywodraeth os â cymuned y dyffryn ar chwâl.
Mewn datganiad i'r wasg yn Nhachwedd 2001 (pan oedd yr ymgais cyntaf o adeiladu'r argae newydd fethu) dywedodd y World Archaeological Congress bod "the Ilisu dam would have amounted to a form of ethnic cleansing in which governments and companies would have been complicit". Cymerodd yr archeolegwyr ddiddordeb yn y project yn wreiddiol oherwydd y byddai yn boddi tref hynafol Hasankeyf, sydd o werth archeologol unigryw.
Mae llywodraeth Twrci yn honni ei bod wedi cael cytundeb y gwledydd sy'n is i lawr yr afon, sef Irac a Syria, fel mae gofyn iddi wneud yn ôl cyfraith ryngwladol. Ond gwadu hynny wnaeth llywodraeth Irac. Mae'n destun pryder y gallai'r ffrae am ddŵr - a fydd yn dod yn fwy ac yn fwy prin yn y dyfodol - achosi rhyfeloedd yn yr ardal. Hefyd gallai Twrci ddefnyddio ei grym dros ddŵr yr afon fel arf mewn unrhyw wrthdaro. A does dim angen llawer o ddychymyg i ddyfalu pwy fydd yn dioddef fwyaf o hyn, sef y bobl gyffredin.
Gofynnodd Cymdeithas y Cymod i'r Ysgrifennydd Tramor bwyso ar Dwrci i beidio â chario ymlaen efo cynllun argae Ilisu a hefyd i gydnabod hawliau lleiafrifoedd ieithyddol a ddiwylliannol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth y Kurdish Human Rights Project.
