Awyrennau di-beilot Aberporth
Bydd criw ohonom yn mynd ar daith gerdded ar ddydd Mercher, 21 Medi 2011, i ddangos ein gwrthwynebiad i arbrofi awyreannau di-beilot yng Nghymru. Bydd y daith yn cychwyn am 7 y bore tu allan i swyddfa Qinetiq ym Mharc Aberporth ac yn mynd drwy Beulah, Castellnewydd Emlyn, Hermon, Cynwyl Elfed, Bwlchnewydd a Trefechan cyn i'r criw ymuno â digwyddiad lansio Llyfr Gwyn Caerfyrddin am 5yh. Os hoffech gerdded rhan o'r daith, cysylltwch â Guto Prys ap Gwynfor ar 01559 363649 neu Cen Llwyd ar 07970 596887.

Cynhaliwyd Gwasanaeth o Edifeirwch dan ofal y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor ger faes awyr yr awyrennau di-beilot ym Mharc Aberporth ar fore Sadwrn, 26 Mehefin. Dewiswyd y diwrnod oherwydd dyma oedd Dydd Dathlu'r Lluoedd Arfog pan y canolbwyntiwyd y dathlu Prydeinig ar Gaerdydd. Cafodd ein protest ei chefnogi gan aelodau o CND Cymru, Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Bro Emlyn a changen leol Amnest. Offrymwyd y gweddïau gan Eirian James a'r Dr. Robin Gwyndaf, Is-lywydd y Gymdeithas. Dywedodd ein Llywydd Guto Prys ap Gwynfor mai dim ond dros Geredigion y mae hawl gan yr awyrennau di-beilot yma, a elwir hefyd yn "drôns" (drones), i hedfan yn Ewrop gyfan. Eglurodd fod cost datblygu a chynnal y drôns yn £899 miliwn a bod y Llywodraeth yn Llundain wedi gwneud cytundebau gyda chwmnïau preifat, sef QinetiQ a hefyd UTacS, sy'n gonsortiwm o Thales UK (cwmni o Ffrainc) ac Elbit Systems o Israel. Mae'r drôns newydd ddechrau cael eu profi drwy hedfan dros Geredigion o Aberporth i faes hyfforddi'r fyddin ar Fynydd Epynt. Ystyrir Aberporth fel "canolfan ardderchowgrwydd" datblygu'r drôns.
Defnyddiwyd drôns Americanaidd o'r enw "Reaper" gan Lu Awyr Prydain yn Afghanistan o 2007 ymlaen ac maent yn gallu cario dau fom a phedwar taflegryn "Hellfire". Bellach mae Prydain yn datblygu a phrofi ei drôn ei hun, sef "Watchkeeper", dros diroedd Ceredigion er mwyn ei ddefnyddio yn hwyrach eleni yn Afghanistan. Mae yna beryglon i drigolion yr ardal gan mai arbrofi'r "Watchkeeper" sy'n digwydd dros ardal boblog. Mae angen ystod o systemau cyfathrebu i rheoli a gweithredu'r drôns ac fe all nam trydanol neu golli'r signal fod yn ddigon i greu damwain. Mae yna beryglon pellach gan bod hi'n bosib i unigolion gyda meddalwedd y gellir ei brynu hacio i mewn i system reoli'r drôns. Mae hyn yn digwydd yn barod ar faes y gad yn Afghanistan.
Mae'r Americanwyr yn defnyddio'r drôns i dargedu arweinwyr y gelyn er mwyn eu dienyddio, ac mae hyn yn anghyfreithlon heb sôn am fod yn anfoesol i ladd unigolyn heb achos llys i amddiffyn eu hunain. Defnydd arall i'r drôns yw i ysbïo ar bobl a chasglu gwybodaeth, yn Arizona er enghraifft maent yn edrych am fewnfudwyr anghyfreithlon sy'n croesi'r ffin o Mecsico. Cafwyd eu defnyddio hefyd gan fyddin Israel yn ei cyrch yn erbyn Gaza llynedd a gan y CIA ym Mhacistan, Somalia a'r Yemen. Y gwir yw fod y defnydd o'r awyrennau di-beilot yma a reolir yn Nevada yr Unol Daleithiau, filoedd o filltiroedd i ffwrdd o faes y gad yn Afghanistan, yn cynyddu'n ddyddiol. Ers 2008 mae Prydain wedi eu defnyddio 84 o weithiau ac mae yna amcangyfrif fod tua 1,300 o bobl wedi eu lladd ganddynt ym Mhacistan yn unig gan yr Unol Daleithiau. Mae'r amser wedi dod i godi ymwybyddiaeth pobl o beryglon ac anfoesoldeb yr arf ddibeilot ddienaid yma.
Gallwch ddarllen anerchiad Guto Prys ap Gwynfor yn Aberporth yma.
Cynhaliodd Cymdeithas y Cymod bererindod i Fynydd Epynt ar 25 Mehefin 2011 er cof am y bobl ddiniwed a laddwyd gan awyrennau di-beilot. Mae adroddiad a fideo ar gael ar dudalen Epynt.
Gallwch lawrlwytho taflen ddwyieithog am yr awyrennau di-beilot yma.
O Penyberth i Barc Aberporth: Croeso i Gymru Ryfelgar oedd teitl Darlith Lewis Valentine 2010, a draddoddwyd gan Angharad Mair. Gallwch ddarllen y ddarlith ar www.clickonwales.org/2010/07/from-penyberth-to-parc-aberporth-welcome-to-warmongering-wales/.
