Digwyddiadur
Tan 11 Chwefror, canolfan y Morlan, Aberystwyth: Arddangosfa 'Conscious Oil'. Lluniau gan yr artist a'r heddychwraig Emily Johns. Ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 10.00-12.00, 14.00-16.00. Mynediad am ddim.
Llun, 30 Ionawr, 7yh, Canolfan yr Esgobaeth, Bangor: Pererindod at feini byw y Tir Sanctaidd. Bydd Esgob Bangor, Andrew John, ac eraill yn adrodd am eu ymweliad diweddar â Phalestina. Rhoddion at Glinic Deintyddol Symudol Gaza.
Mawrth, 31 Ionawr, 7yh, Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau, Prifysgol Bangor: Dadl Palesteina. y panelwyr fydd y Dr Stephen Jay Stern, Cyfarwyddwr Astudiaethau Iddewig yng Ngholeg Gettysburg, Pennsylvania; y Parch John Butler, ymgyrchydd dros heddwch a hawliau'r Palestiniaid; cynrychiolwyr o lysgenhadaethau Israel a'r Awdurdod Palestinaidd yn Llundain. Trefnir gan Jochen Eisentraut ar ran AGOR-A.
Llun, 6 Chwefror, 6yh, canolfan y Morlan, Aberystwyth: Sgwrs am gipio tir yn Affrica gan Louise Weinzweig o Oxfam. Mynediad am ddim.
Mercher, 8 Chwefror, 9yb-12, Llys yr Ynadon, Fitzalan Place, Caerdydd: Prostestwyr o Meddiannu Caerdydd yn y llys am gymryd rhan mewn protest heddychlon ar dir cyhoeddus ar 11 Tachwedd 2011 fel rhan o Meddiannu Caerdydd.
Mercher, 8 Chwefror, 8yh, Canolfan celfyddydau Chapter, Caerdydd: Saunders Lewis a'r Mudiad Iaith Heddiw. Sgwrs gan y Dr John Davies a thrafodaeth am ddyfodol y mudiad iaith gydag Elin Haf Jones, Catrin Dafydd ac eraill + perfformiad amgen gan Gareth Potter. Nifer cyfyngedig o lefydd. Cyfraniadau ar y drws. Trefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg fel rhan o ddathliadau 50 mlynedd ers Tynged yr Iaith. Cysylltwch â swyddfa@cymdeithas.org neu ffoniwch 02920 486469.
Sadwrn, 11 Chwefror, 6yh, canolfan y Morlan, Aberystwyth: Ffilm 'Pray the Devil back to Hell', sy'n ymdrin â dewrder a phenderfyniad merched Liberia a ddaeth â'r rhyfel cartref yno i ben a threfnu etholiadau mewn awyrgylch o ryddid a thegwch. Mynediad am ddim.
Sul, 11 Mawrth, 10.30yb, Eglwys y Bedyddwyr, Y Tabernacl, Caerdydd: 'Cadwyn o Gariad'. Oedfa Heddwch Cymuned Corrymeela, Gogledd Iwerddon. Trefnir a chyflwynir gan Dr Robin Gwyndaf. Croeso cynnes iawn.
Gwener-Sadwrn, 23-24 Mawrth, gwesty'r Talbot, Tregaron: Gwylnos Cymdeithas y Cymod. Thema'r Wylnos eleni fydd Henry Richard, yr "Apostol Heddwch". Bron yn union 200 mlynedd ers ei eni ar 3 Ebrill 1812, byddwn yn cyfarfod yn ei dref enedigol i ddathlu ei waith dros heddwch rhwng cenhedloedd y byd. Bydd croeso i bawb.
Dechreuir yr Wylnos ar y nos Wener gyda chinio am 6.00 o'r gloch, ac yna cawn sgwrs gan Gwyn Griffiths am fywyd a gwaith Henry Richard. Ar ddiwedd y noson bydd cyfle i gymdeithasu dros beint neu banad ym mar enwog y Talbot.
Bore Sadwrn, am 10.30yb, bydd y Dr Robin Gwyndaf yn arwain oedfa fach i gofio Henry Richard wrth ei gofgolofn yn sgwâr Tregaron. Am 10.45 wedyn cynhelir Cyngor y Gymdeithas yn y Talbot. Bydd rhan swyddogol yr Wylnos yn gorffen erbyn amser cinio, ond wrth gwrs bydd cyfle i'r sawl sy'n dymuno archebu cinio yn y Talbot wedyn.
Cost yr Wylnos i'r rhai sy'n cael cinio ac yn aros dros nos yw £50 yr un mewn ystafell ddwbl (£40 i bobl ag incwm isel). Bydd cost ychwanegol o £10 am ystafell sengl. Os nad ydych am aros dros nos, gallwch gael cinio nos Wener am £14. Gallwch fynychu'r cyfarfodydd yn ddi-dâl, ond buasem yn falch petaech yn rhoi gwybod os ydych am ddod.
I gadw'ch lle, anfonwch siec at: Cymdeithas y Cymod, 3 Tai Minffordd, Rhostryfan, Caernarfon, LL54 7NF erbyn 8 Mawrth. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael yn y Talbot, felly'r cyntaf i'r felin fydd hi. Cofiwch roi gwybod hefyd os oes gynnoch chi unrhyw anghenion bwyd arbennig.
Am fanylion pellach cysylltwch â Marika ar 01286-830913 neu cymdeithasycymod@btinternet.com.
Nos Fawrth, 3 Ebrill, sgwâr Tregaron: Dathlu 200mlwyddiant Henry Richard. Manylion i ddod.
Llun, 9 Ebrill, 7.30yh, festri Tabernacl, Heol Waterloo, Caerfyrddin: Noson yng nghwmni Emily Johns a Milan Rai, golygyddion Peace News. Trefnir gan gell Caerfyrddin o Gymdeithas y Cymod. Croeso i bawb. Am fanylion pellach, ffoniwch: 07855 868077 neu 07986267580.
Sadwrn, 21 Ebrill, gwesty'r Talbot, Tregaron: Ffair heddwch er cof am Henry Richard, gyda Bruce Kent ac eraill. Manylion i ddod.
Gwener, 4 Mai, 7.30yh, festri Tabernacl, Heol Waterloo, Caerfyrddin: Stephen Evans yn trafod 'The Kill Factor'. Trefnir gan gell Caerfyrddin o Gymdeithas y Cymod. Croeso i bawb. Am fanylion pellach, ffoniwch: 07855 868077 neu 07986267580.
Sadwrn, 23 Mehefin, Aberporth: Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas y Cymod a protest awyrennau di-beilot. Manylion i ddod.
