Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Epynt

25 Mehefin 2011: Militareiddio Cymru

Aeth tua 100 o bobl ar bererindod i faes ymarfer y fyddin ar Fynydd Epynt ar 25 Mehefin 2011. Ar "Ddydd y Lluoedd Arfog" buont yn dangos eu gwrthwynebiad i filitareiddio Cymru ac yn enwedig i arbrofi awyrennau di-beilot yn awyr Cymru.

Cynhaliwyd gwasanaeth yn adfeilion Capel y Babell dan ofal y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, Llywydd Cymdeithas y Cymod. Dywedodd bod yr awdurdodau yn gofyn i ni gofio'r rhai maen nhw'n ystyried yn arwyr, sef "rhai sy'n barod i ladd eraill a dioddef er mwyn i'r breintiedig allu cario ymlaen a'u breintiau". Yn lle hynny roedd am gofio arwyr y Gymru ddiwylliedig a hanodd o ardal yr Epynt dros y canrifoedd, pobl fel John Penri, T.J. Llewelyn Pritchard a William Williams Pantycelyn.

Aeth y grŵp ymlaen wedyn i'r pentref ffug mae'r fyddin wedi'i adeiladu ar y mynydd i ddangos nad oeddent am i dir ac awyr Cymru gael eu defnyddio at ddibenion paratoi rhyfel. Roeddent yn enwedig yn gwrthwynebu'r awyrennau di-beilot sydd yn cael eu harbrofi rhwng Aberporth a'r Epynt gan fod tystiolaeth bod y rhain yn lladd llawer o bobl ddiniwed. Cafwyd seremoni i goffáu rhai o'r bobl gyffredin mae'n hysbys eu bod wedi cael eu lladd gan daflegrau a lansiwyd o awyrennau di-beilot - fel Shaza al-'Abd Muhammad al-Habbash, merch fach 10 oed a laddwyd ar 4 Ionawr 2009 pan oedd yn chwarae ar ben to ei thŷ yn Ninas Gaza.

Coffáu Shaza al-'Abd Muhammad al-Habbash, a laddwyd yn 10 oed

Coffaodd y pererinion nifer o bobl fel Shaza drwy ysgrifennu eu henwau ar y cerrig beddi ffug yn y pentref ffug. Roeddent yn ymwybodol bod mwy na thebyg llawer iawn mwy o bobl gyffredin wedi'u lladd neu eu hanafu, ond bod dim cofnod yn bodoli amdanyn nhw. Soniodd Guto Prys ag Gwynfor am ymchwil newydd gan yr Oxford Research Group a oedd yn dangos bod dyletswydd i gadw cofnod o'r holl ddioddefwyr yn ôl cyfraith ryngwladol, a galwodd ar lywodraethau'r gwledydd sy'n defnyddio awyrennau di-beilot i wneud hyn.

26 Mehefin 2010: Awyrennau di-beilot

Ni aeth Cymdeithas y Cymod i Fynydd Epynt yn 2010. Yn lle hynny cynhaliodd wasanaeth o edifeirwch o flaen Parc Aberporth, y ganolfan arbrofi awyrennau di-beilot yng Ngheredigion. Mae yna bellach, yn anffodus, gyswllt rhwng y ddau le gan fod awyrennau di-beilot yn cael eu datblygu yn Aberporth a'u harbrofi rhwng y lle hwnnw a Mynydd Epynt.

I ddarllen mwy am yr ymgyrch yn erbyn y awyrennau di-beilot cliciwch yma.

27 Mehefin 2009: 'Dydd y Lluoedd Arfog'

Dewisodd y Llywodraeth ddiwrnod Pererindod y Gymdeithas i Epynt i ddechrau diwrnod newydd yn y calendr Prydeinig: Dydd y Lluoedd Arfog. Daeth nifer dda ynghyd i Epynt o bob rhan o Gymru ar ddiwrnod pan oedd yr haul yn tywynnu ar adfeilion Capel y Babell ac ar bentref ffug, gwag Cilieni, a adeiladwyd gan y fyddin i ymarferiadau'r milwyr.

Yn ymyl y pentref ffug

Gyda'r gynulleidfa i gyd yn cyfrannu i'r gwasanaeth, roedd yn gyfle i gofio nifer o bethau. Fel y bu yn 'ddiwedd byd' yn Epynt mae'n 'ddiwedd byd' mewn llawer cymuned arall hefyd - Darfur, Gaza, Congo, Somalia, Affganistan. Nid yn unig mae cartrefi yn cael eu dinistrio, ond teuluoedd yn cael eu difa yn llwyr.

Ac ar 'Ddydd y Lluoedd Arfog' cofiwyd am filwyr led-led byd - rhai yn blant, rhai yn ddi-waith ac yn dlawd, rhai yn chwilio am yrfa ac arwriaeth, ond i gyd wedi eu denu a'u perswadio i gredu yn egwyddor 'trechaf, treisied', y dwrn dur a'r lladd cyfiawn.

Ac fel Jeremeia yn prynu darn o dir yn Anathoth fel arwydd o adfer a gobaith, dywedwyd yn Epynt fod yn bryd i'r lluoedd arfog yng Nghymru ddechrau cyflwyno y tiroedd a feddiannwyd led-led Cymru yn ôl i hyrwyddo bywyd y gymuned. Nid breuddwydio gwag yw hynny, ond rhan o raglen ymarferol i greu Cymru ple mae'r ffordd ddi-drais yn ffordd o fyw yn bersonol, fel cymuned ac fel cenedl.

Mehefin 2008: Enwau Cymraeg yn ôl ar Fynydd Epynt

T. James Jones yn darllen ei adwl

Y prifardd T James Jones yn darllen ei awdl Ffin ar safle Capel y Babell

Daeth dros ddeg ar ugain o aelodau'r Gymdeithas i'r cwrdd ger gweddillion Capel y Babell ar Fynydd Epynt ar ddydd Sadwrn 21 Mehefin 2008, pan gafwyd gwasanaeth dan ofal y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor i gofio am y gymuned o Gymry Cymraeg a arferai fyw ar y mynydd, cyn i'r Fyddin ddwyn y tir yn 1940. Dywedodd bod hi'n bwysig ein bod yn atgoffa ein hunain a'r genedl o'r hyn ddigwyddodd ar y mynydd er mwyn cadw mewn cof y gymuned a gafodd ei dinistrio gan fyddin a oedd yn honni ar y pryd ei bod yn ei hamddiffyn. Eglurodd mai celwydd oedd y tu cefn i ryfel megis y celwydd o amddiffyn cenedl tra mewn gwirionedd y gwrthwyneb oedd yn wir, wrth i dir gael ei ysbeilio a phobl gyffredin yn dioddef.

Arwydd y Gelli Gaeth

Llywydd ac Ysgrifennydd y Gymdeithas wrth arwydd y Gelli Gaeth

Darllenodd y Parchedig T James Jones ei awdl fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd sy'n sôn am fachlud yr haul dros Fynydd Epynt, ac yn sôn hefyd fod tir Mynydd Epynt yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer milwrol a mai dim ond adfeilion y ffermydd sydd ar ôl. Teimlodd sawl un wefr wrth glywed geiriau'r awdl yn cael eu hadrodd yn y fan a'r lle yr ysbrydolwyd hwynt gan y prifardd ei hun.

Mae'r Fyddin wedi cytuno i ddymuniad Cymdeithas y Cymod i ail osod arwyddion gydag enwau Cymraeg y ffermydd ar Fynydd Epynt. Eglurodd y Parchedig Herbert Hughes, sydd wedi cofnodi hanes y troad allan o'r ffermwyr yn ei lyfr Mae'n ddiwedd byd yma, ei fod wedi bod yn pwyso ar y Fyddin ers blynyddoedd i osod yr enwau yn ôl ar y ffermydd. Dywedodd ei fod yn falch o weld bellach fod yr enwau wedi eu hadfer. Yna aeth yr aelodau o gwmpas y mynydd i weld yr arwyddion newydd ar y ffermydd megis "Gelli-gaeth" a "Cefnbryn Uchaf".

Mehefin 2007: Cofio rhyfel y Falklands

Tecwyn Ifan yn canu ffarwel i Tony Blair

Tecwyn Ifan yn canu ffarwel i Tony Blair

Daeth dros ddeugain o bobl ynghyd ar Fynydd Epynt ddydd Sadwrn 23 Mehefin 2007, i edifarhau mai yno yr hyfforddwyd milwyr a aeth i ryfel y Falklands. Cynhalwyd gwasanaeth dan arweiniad y Parch Guto Prys ap Gwynfor yn adfeilion Capel y Babell ar y mynydd. Cafwyd cân ffarwel gan Tecwyn Ifan i Tony Blair.

Dywedodd Guto Prys ap Gwynfor "mai twyll yw cychwyn bob rhyfel, a mae bob math o gelwyddau yn cael ei dweud fel digwyddodd adeg y Falklands a hefyd gyda rhyfel Iraq". Bu Guto Prys ap Gwynfor yn gweithio yn wirfoddol gyda VSO ar Ynysoedd y Falklands cyn y rhyfel yno. Eglurodd fod y bobl a gwrddodd yno i gyd yn dyheu ar y pryd i adael yr ynysoedd i fynd i fyw bywyd gwell yng Nghanada neu Awstralia. Nid oeddynt yn gallu gadael yr ynys oherwydd roeddynt yn gweithio am gyflog bach gan gwmnïau mawr Prydeinig. Roedd Llywodraeth Prydain am gadw'r bobl yno, er mwyn cael esgus i gadw'r ynysoedd oherwydd bod olew a mwynau yno. Seiliwyd y cyfiawnhad am y rhyfel ar gelwydd. Erbyn hyn mae llawer iawn o'r bobl wedi gallu gadael.

Yn y pentref ffug

Yn y pentref ffug

Roedd rhai o'r bobl leol a oedd yn cofio'r amser cyn i'r Fyddin Brydeinig gipio eu cartrefi ar fynydd Epynt wedi ymuno yn y gwasanaeth. Roeddynt yn gallu dangos ble fu eu cartrefi a'r ysgol lle does dim ond olion bellach. Cerddodd y criw hyd at bentref ffug a godwyd gan y Fyddin i hyfforddi milwyr mewn ymladd "o dŷ i dŷ". Adeiladwyd eglwys a mynwent ffug yno a bob math o dai eraill sy'n hollol wag.

Hydref 2005: Teyrnged i Gwynfor Evans

Cerddodd aelodau o Gymdeithas y Cymod ar draws tir ymarfer y fyddin ar Fynydd Epynt heb ganiatâd gan gynnal gwasanaeth ar safle Capel y Babell yno ar fore Sadwrn 8 Hydref 2005. Roedd aelodau o'r fyddin yn cynnal ymarferion ar y pryd yn agos at safle'r capel yn ystod y gwasanaeth.

Roedd y gwasanaeth yn adfeilion Capel y Babell dan ofal y Parchedig Pryderi Llwyd Jones a'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor. Disgrifiodd Guto Prys ap Gwynfor sut y gorfododd y Swyddfa Ryfel bedwar cant o bobl oedd yn ffermio'r mynydd i adael o fewn ychydig wythnosau yn 1940. "Gwthiodd hynny ffin yr iaith Gymraeg ddeg milltir yn bellach i'r gorllewin" meddai "wrth i'r cymunedau Cymraeg ei hiaith yma gael eu dileu o'r mynydd". Ychwanegodd fod hi'n bwysig fod anghyfiawnder y Swyddfa Ryfel Brydeinig o chwalu bro Gymraeg gyfan ddim yn cael ei anghofio. "Nid yw'r anghyfiawnder yn mynd yn ddim llai gydag amser tra bod y fyddin yn dal ei gafael ar ein tir" dywedodd.

Cofeb y Babell

Y gofeb am Gapel y Babell a'i gymuned, a osodwyd yn dilyn ymgyrch gan Gymdeithas y Cymod

Talodd y Parchedig Pryderi Llwyd Jones deyrnged i ymdrech fawr y diweddar Gwynfor Evans i amddiffyn y fro rhag y Swyddfa Ryfel ac adroddodd yr hanes fel y bu iddo gynnal cyfarfodydd protest ar draws fynydd Epynt yn 1940. Dywedodd "fod Gwynfor wedi gweithio yn ddiflino dros y mudiad heddwch yn ystod cyfnod anodd y rhyfel. Ac ni flinodd Gwynfor dystiolaethu fel Cristion dros heddwch gan argyhoeddi llawer o wirionedd ei ymdrech yn erbyn pechod rhyfel".

Ar ddiwedd y gwasanaeth plannwyd coeden ym mynwent Capel y Babell gan Guto Prys ap Gwynfor i gofio am waith ei dad Gwynfor Evans dros heddwch.


Gallwch ddarllen rhagor am Epynt yn:

Mae awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol 2007, Ffin gan T. James Jones, yn sôn am Epynt. Gallwch ddarllen y gerdd yma.