Yr Undeb Ewropeaidd
Penblwydd yr Undeb Ewropeaidd yn 50
Datganiad Berlin
Yn 2007 mae yr Undeb Ewropeaidd yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 mlwydd oed. Cafwyd datganiad ei wneud gan aelodau'r UE yn Berlin ar 23 Mawrth, fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd, sy'n dweud:
"Rydym yn ymroddedig i ddatrys gwrthdaro yn y byd yn heddychlon gan sicrhau nad yw pobl yn dioddef rhyfel, terfysgaeth na thrais. Mae'r Undeb Ewropeaidd eisiau hybu rhyddid a datblygiad yn y byd. Rydym am leihau tlodi, newin ac afiechydon. Rydym am barhau i chwarae rôl flaenllaw yn y frwydr yma."
Mae canghennau Cymdeithas y Cymod ar draws yr Undeb am gadw arweinwyr yr UE at ei gair yn y datganiad uchod eu bod "yn ymroddedig i ddatrys gwrthdaro yn y byd yn heddychlon gan sicrhau nad yw pobl yn dioddef rhyfel." Byddwn yn pwyso ar aelodau'r UE i sefydlu llu cadw heddwch sifil di-drais ar gyfer yr Undeb.
Bu canghennau ein Cymdeithas yn Ffrainc (MIR) a'r Iseldiroedd (Kerk en Vrede) yn llwyddiannus i sicrhau pleidlais "Na" mewn refferendwm yn y ddwy wlad yn erbyn erthyglau 40 i 43 o Gyfansoddiad yr Undeb Ewropeaidd. Roedd Erthygl 40 am greu polisi amddiffyn a diogelwch cyffredin i'r UE. Roedd Erthygl 41 am hybu gwladwriaethau i gydweithio a'i gilydd yn filwrol oddi fewn yr Undeb. Tra roedd erthygl 42 am alw ar holl wladwriaethau yr UE i gefnogi ei gilydd yn filwrol os y byddai ymosodiad, neu fygythiad o ymosod ar un o'r gwladwriaethau.
Yn ffodus felly gwrthodwyd y Cyfansoddiad Ewropeaidd yma, ond mae'n bwysig ein bod ni yn dal i bwyso ar arweinwyr yr UE i gadw at eiriau Datganiad Berlin. Fel y gallwch ddarllen isod mae yna gytundeb wedi bod yn barod i sefydlu a chynnal byddin Ewropeaidd. Rydym fel Cymdeithas yn dal i ofni gweld yr Undeb Ewropeaidd yn datblygu yn filitaraidd gan ddefnyddio grym milwrol fel arf polisi tramor, er gwaethaf Datganiad Berlin.
Yr Undeb Ewropeaidd a Militariaeth
Sefydlwyd yr Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau heddwch yn Ewrop ar ocirc;l yr Ail Ryfel Byd, ond yn dilyn methiant Ewrop i atal y rhyfel yn yr hen Iwgoslafia heb help yr Unol Daleithiau dechreuwyd ail feddwl am bolisi amddiffyn yn Ewrop. Hefyd cafodd digwyddiad 9/11 yn America, a'r rhyfel yn erbyn Irac eleni effaith bellach ar feddylfryd arweinwyr yr UE. Yn fwy na dim efallai dangosodd fod rhwygiadau amlwg oddi fewn yr UE ar bolisi tramor ac amddiffyn.
Mae yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys gwladwriaethau sydd yn aelodau o NATO megis Prydain, yr Eidal a Sbaen, ond hefyd gwledydd niwtral megis Iwerddon, Awstria a Sweden. Y mae gan y gwledydd niwtral hefyd eu byddinoedd, ac mae gwlad megis Sweden er enghraifft yn cynhyrchu a gwerthu arfau milwrol i'r byd.
Cynhaliwyd Cyngor yr UE, sef cyfarfod o brif weinidogion y gwledydd sy'n aelodau o'r UE, yn Helsinki yn Rhagfyr 1999 pan y penderfynwyd symud i wireddu cytundeb Amsterdam i sefydlu byddin Ewropeaidd erbyn 2003. Cytunwyd y byddai gwladwriaethau sy'n aelodau o'r UE yn sefydlu a chynnal byddin Ewropeaidd o 60,000 o filwyr ar gyfer argyfwng. Roedd rheolaeth argyfwng di-filitaraidd i'w sefydlu hefyd er mwyn gwneud defnydd o adnoddau sifil ochr yn ochr a rhai militaraidd.
Y dyn gyda chyfrifoldeb oddi fewn yr Undeb Ewropeaidd am hyn yw y Dr. Javier Solana Uchel Gynrychiolydd yr Undeb ar Bolisi Tramor a Diogelwch Cyffredin. Yn y cyfarfodydd o Gyngor yr UE a gynhaliwyd wedyn yn Feira, Nice a Gotaborg ail ddatganwyd y dymuniad i adeiladu Polisi Amddiffyn cyffredin a fyddai yn gallu sicrhau fod yr UE yn datblygu gallu argyfwng militaraidd yn ogystal ag un sifil yn unol ag egwyddorion Siartr y Cenhedloedd Unedig.
Yn ystod y rhyfel yn erbyn Irac ysgrifennodd y tri cwmni arfau mwyaf yn Ewrop sef BAE Systems, EADS, a Thales at lywodraethau yr Undeb Ewropeaidd i ofyn iddynt wario mwy ar arfau milwrol. Rhan o ddadl y cwmnïau arfau oedd fod angen i Ewrop gynyddu y gwariant ar arfau os yw llywodraethau Ewrop am gael yr un dylanwad yn y byd ag sydd gan yr Unol Daleithiau, neu o leiaf i fod yn gydymaith sylweddol i'r Unol Daleithiau yn y frwydr yn erbyn terfysgaeth. Mae Ewrop yn barod yn gwario £28biliwn y flwyddyn ar arfau, ond roeddynt yn gofyn am ddyblu y gwariant yma.
Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Prydain yn unig yn gwario £12biliwn y flwyddyn ac mae yna 6,000 o gwmnïau ym Mhrydain yn elwa o gyflenwi'r nwyddau i'r fyddin. Gwnaeth y cwmni arfau mwyaf ym Mhrydain, BAE Systems er enghraifft elw o £796miliwn y flwyddyn. Mae'n debyg mai un reswm pam mae llywodraeth Prydain yn gyfrifol am bron i hanner y gwariant milwrol oddi fewn yr UE yw fod Prydain am gadw ei pholisi tramor ac amddiffyn ei hun, gyda'r gallu milwrol i gefnogi'r polisi hynny pan mae rhaid.
Yn ystod yr achos troseddau rhyfel yn Nuremberg ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd gofynnodd y seicolegydd Gustave Gilbert i Reichsmarschall Herman Goering am ei farn ynglyn â pharodrwydd pobl i ryfela. Atebodd Goering: "Wrth gwrs fod pobl ddim eisiau rhyfela. Pam ddylai ryw was fferm beryglu ei fywyd? Mae'n gwybod mai yr unig beth y gall obeithio amdano yw i ddychwelid i'w fferm yn ddianaf. Ond arweinwyr gwledydd sydd yn penderfynu polisi, a'r peth hawsaf yn y byd yw i gael y bobl i ddilyn. Yr unig beth sydd yn rhaid i chi ei wneud yw dweud wrthynt fod gelyn am ymosod arnynt a bod heddychwyr yn gosod y wlad mewn perygl."
Dim ond codi ofn ar bobl sydd eisiau. Dyna a wnaeth Tony Blair wrth ddweud fod Sadam Hussain yn gallu ymosod arnynt gyda arfau dinistriol mewn 45 munud. Codwyd ddigon o ofn ar aelodau seneddol i bleidleisio dros y rhyfel yn Irac. Erbyn heddiw rydym yn gwybod mai celwydd oedd yr honiad yma. Dioddefwr cyntaf pob rhyfel yw'r gwirionedd.
Prif bwrpas gwladwriaeth yw i ddiogelu eu dinasyddion rhag y drwg. Os nad oes angen diogelu does dim angen gwladwriaeth gyda chyfraith a threfn. Felly mae hi'n bwysig er mwyn i wladwriaethau oroesi fod yna ddrwg a bod yna angen diogelwch ar ddinasyddion. Roedd yna ofn ar ddiwedd y "rhyfel oer" nad oedd yna elyn bellach, ac y byddai yna "elw heddwch" (peace dividend). Beth oedd pwrpas byddin ac arfau - ac ie wladwriaeth heb elyn? Felly wrth i'r llen haearn ddod i lawr rhaid oedd cael gelyn newydd. Dim ond un grym milwrol mawr oedd ar yn y byd sef Unol Daleithiau America. Nid oedd unrhyw wlad arall yn y byd yn wir fygythiad i rym yr Unol Daleithiau. Yna ar 9fed Medi 2001, codwyd yr ofn hynny ar ddinasyddion yr Unol Daleithiau wrth iddynt sylweddoli eu bod hwy mewn perygl a bod angen diogelwch arnynt. Y gelyn oedd nid gwladwriaeth arall ond "terfysgaeth". Cyhoeddwyd y rhyfel yn erbyn terfysgaeth. Mae'r gair terfysgaeth bellach yn cael ei ddefnyddio yn helaeth oddi fewn yr UE, felly rhaid ystyried tybed nad yw yr UE hefyd yn defnyddio ofn fel modd i gael pobl i bleidleisio dros y fasnach arfau Ewropeaidd?
Cadeirydd Cymdeithas y Cymod eleni yw y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor a dyma beth ddywedodd yn ei lyfr Y Groesffordd a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cymod yn 1984:
"Y mae'r heddwch y mae'r byd yn ei gynnig, fel y gwyddom ond yn rhy dda, wedi ei sylfeini ar ofn, dychryn, bygwth a brawychu'r gelyn drwy ei gasáu a hod yn barod i lofruddio ei blant a'i henoed. Nid dulliau'r byd hwn yw dulliau lesu ond yn hytrach ddulliau Duw drwy garu hyd yr eithaf, a chreu cymdeithas newydd y seilir ei bodolaeth ar gariad. 'Ac yr wyf am ddangos i chwi ffordd ragorach fyth . . . Y mae cariad yn hirymarhous; y mae cariad yn gymwynasgar; Nid yw'n cenfigennu, Nid yw'n ymffrostio, Nid yw'n ymchwyddo. Nid yw'n gwneud dim sy'n anweddus, Nid yw'n ceisio ei ddibenion ei hun, Nid yw'n gwylltio, Nid yw'n cadw cyfrif o gam, Nid yw'n cael llawenydd mewn anghyfiawnder; ond y mae'n cydlawenhau a'r gwirionedd. Y mae'n goddef i'r eithaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf ac yn dal ati i'r eithaf' (I Corinthiaid 13: 4-7). Geiriau gorgyfarwydd yw'r rhain a neilltuwyd i'w darllen mewn priodasau a digwyddiadau 'neis, neis' eraill. Darllenwn nhw eto, a dadansoddwn nhw maent yn gwbl eithafol a chwyldroadol. Rydym wedi eu trin yn llawer rhy hir fel rhyw ddelfryd sydd y tu hwnt i'n cyrraedd, gwnaethom yr un modd gyda'r Bregeth ar y Mynydd - ond dyma fan cychwyn ein ffydd ni! Os derbyniwn lesu fel Arglwydd bywyd, dyma'r modd i fyw yn ein cymdeithas yma, nawr.
Rhaid inni fel eglwysi yng Nghymru, ystyried o'r newydd beth yw ein blaenoriaethau a phwrpas ein bodolaeth. Trown ein capeli yn ganolfannau i gymunedau ddod ynghyd i foli a thrafod a chreu cymdeithas o bobl yr Arglwydd sy'n gwbl ymroddgar i gyflawni ei ewyllys ef. Nid mynd i fan o addoli yw nod a phen draw ein ffydd, ond ei man cychwyn, ac ni ellir cyflawni dim heb fan cychwyn. Ystyriwn yn ddwys beth yw goblygiadau 'tangnefedd' a 'cyfiawnder' i'n ffordd ni o fyw. Rhown heibio ein hunanoldeb balch a'n hysfa am bleser a chysur arwynebol, a dilynwn arweiniad ei Ysbryd a bod yn barod i fentro i dir newydd, a chymdeithas newydd."
