Datganiadau i'r wasg
Os hoffech dderbyn ein datganiadau i'r wasg yn rheolaidd, jyst gyrrwch nodyn!
Protest yn Aberporth (29/06/10)

Cynhaliodd aelodau Cymdeithas y Cymod gyfarfod y tu allan i ganolfan yr awyrennau di-beilot ym Mharc Aberporth fore Sadwrn diwethaf. Roedd y cyfarfod dan ofal Llywydd y Gymdeithas, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor. Cymerwyd rhan hefyd yn y gwasanaeth o edifeirwch gan y Dr. Robin Gwyndaf ac Eirian James. Cafwyd cefnogaeth gan aelodau Cymdeithas Heddwch a Chyfiawnder Bro Emlyn ac aelodau cangen leol Amnest Rhyngwladol.
Dywedodd Guto Prys ap Gwynfor fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwario £899miliwn i ddatblygu yr awyren ddi-beilot "Watchkeeper" yn Aberporth gyda chytundebau i ddau gwmni preifat sef Thales a Qinetiq. Yr unig le yn Ewrop ble mae'r awyrennau di-beilot yma wedi cael yr hawl i hedfan yw dros dir Ceredigion.
Protest yn Aberporth (20/06/10)
Bydd aelodau Cymdeithas y Cymod yn cynnal cyfarfod y tu allan i ganolfan yr awyrennau di-beilot yn Barc Aberporth fore Sadwrn 26 Mehefin am 11.00 y bore. Byddwn yn dwyn sylw at y ffaith fod yr awyrennau di beilot yma yn hedfan dros wlad Ceredigion hyd at Fynydd yr Epynt i ymarfer a phrofi'r awyrennau. Damwain sy'n aros i ddigwydd yw hedfan yn awyrennau yma, a ddefnyddir gan y fyddin i fomio trigolion yn Afghanistan ac yn y Gaza, dros ein cefn gwlad.
Credwn fel Cymdeithas y Cymod fod y defnydd o awyrennau di-beilot yn hollol anfoesol gan ei bod yn fwy tebyg o ladd pobl ddiniwed oherwydd bod rheoli'r awyrennau yma yn digwydd yn bell o faes y gad gan filwyr sydd ddim yn gallu teimlo ing cydwybod wrth edrych yn unig ar y bomio ar sgrin fideo. Bydd y cyfarfod dan ofal llywydd y Gymdeithas Y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.
Y BBC ac apêl ddyngarol Gaza (25/01/09)
Mae Cymdeithas y Cymod wedi anfon y llythyr atodol at Reolwr BBC Cymru yn gofyn i'r BBC ail ystyried peidio â darlledu yr apêl dyngarol dros bobl Gaza.
Annwyl Gyfaill,
Apêl Ddyngarol Gaza
Ysgrifennaf ar ran aelodau Cymdeithas y Cymod yng Nghymru i ofyn i chi ail ystyried penderfyniad y BBC i beidio darlledu apêl ddyngarol ar ran y Groes Goch a Chymorth Cristnogol ar gyfer plant a phobl ddiniwed y Gaza. Gobeithiwn y gallwch ddwyn perswâd ar awdurdodau'r BBC yn Llundain i adael i'r BBC yng Nghymru o leiaf ddarlledu'r apêl ddyngarol yma.
Rydym yn apelio atoch i ail feddwl fel mudiad rhyngwladol dros gymod gyda changhennau ym Mhalestina ac yn Israel o aelodau sy'n credu drwy eu ffydd Iddewig a Mwslimaidd mewn dilyn ffordd tangnefedd i ddatrys gwrthdaro. Nid ydym yn credu fod yr apêl ddyngarol yma yn peryglu o gwbl safiad newyddiadurol diduedd y BBC.
Tangnefedd
Arfon Rhys
Ysgrifennydd
Cymdeithas y Cymod yng Nghymru
Ymarferiad Joint Warrior (30/09/08)
Mae'r ymarferion milwrol (Joint Warrior) arfaethedig sydd i'w cynnal o Hydref 6 hyd Hydref 16 yn arwydd pendant arall o'r modd y mae Cymru'n cael ei militareiddio'n llwyr.
Gwrthwynebwn yr ymdrech i gynyddu pryder ac ofn pobol drwy ddefnyddio'r esgus fod rhaid wrth yr ymarferion i allu gwrthsefyll terroristiaeth. Gwrthwynebwn yr ymdrech i gynyddu'r ymdeimlad o Brydeindod sydd ar waith mewn digwyddiadau tebyg i hyn. Ystyriwn hi'n arwyddocaol iawn mai yng Nghymru a'r Alban y mae'r mwyafrif llethol o'r ymarferion yn mynd i ddigwydd; dwy genedl sy'n cryfhau eu galwadau am fwy o hunaniaeth. Unwaith eto y mae'r ddwy wlad yn cael eu trin fel trefedigaethau eilradd wrth i'r ymarferion achosi anghyfleustra a pheryglon wrth i ffrwydron 'byw' (sic) gael eu defnyddio.
Gwrthwynebwn y gwastraff aruthrol o adnoddau a fydd yn digwydd wrth i'r hyn a elwir yn ymarfer mwyaf mewn hanes ddigwydd, a hynny mewn cyfnod o gynni economaidd.
Galwn ar i bobol Cymru fynegi eu gwrthwynebiad i'r camddefnydd yma o'r tir, môr ac awyr.
Protest yn erbyn Sain Tathan ym Mhenyberth (08/09/2008)

Jill Evans a Dafydd Iwan ym Mhenyberth
Siaradodd Jill Evans, Aelod Senedd Ewrop Plaid Cymru a Chadeirydd CND Cymru, mewn protest a fynychwyd gan dros hanner cant o bobl heddiw ac a drefnwyd gan Gymdeithas y Cymod yng Nghymru ym Mhenyberth ger Pwllheli. Diffynodd Jill Evans eiriau'r Parchedig Lewis Valentine, a ddywedodd na fedrai aros yn fud wrth weld y paratoi at ryfel a bomio dinasoedd. Dywedodd Jill Evans, "Ni allwn ni heddiw aros yn fud a thawel gan fod yr hawl a'r cyfrifoldeb arnom i beidio â derbyn dim ar unrhyw bris, megis academi filwrol arfaethedig Sain Tathan, ar sail swyddi newydd yn unig. Mae hawl gyda ni i ofyn pa fath o swyddi fydd yn dod i bobl leol gan fod angen economi gynaliadwy yma yng Nghymru. Mae gan Gymru botensial fawr fel grym yn y byd dros heddwch. Rhaid i ni ddewis pa fath o Gymru rydym ni ei eisiau. Penderfyniad San Steffan oedd academi filwrol Sain Tathan, nid penderfyniad a wnaed yng Nghymru."
Yn ystod y cyfarfod cynnwyd fflam heddwch i gofio am y digwyddiad yn 1936 pan losgwyd yr ysgol fomio gan Saunders Lewis, DJ Williams a'r Parchedig Lewis Valentine. Pwrpas y cyfarfod oedd atgoffa gwleidyddion Cymru o'r angen i wrthwynebu'r academi filwrol arfaethedig yn Sain Tathan.
Y prif siaradwr arall oedd Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan, a ddywedodd, "Ni fedra i feddwl am le mwy addas i ddechrau fy nhymor newydd fel Llywydd y Blaid nag yma ym Mhenyberth lle y protestiodd dau o gyn llywyddion y Blaid yn erbyn yr ysgol fomio ar y dydd yma yn 1936.&qout;
Aeth Dafydd Iwan yn ei flaen i ddweud, "Nid yw Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros yr academi filwrol arfaethedig yn Sain Tathan, ac mae'r amser wedi dod i ofyn beth yw pwrpas a gwerth y fath sefydliad i fywyd Cymru. Mae gormod o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoadau at ryfel yn barod gyda dros 140 o sefydliadau milwrol. Mae angen buddsoddi mewn heddwch nid rhyfel." Beiodd y corfforaethau rhyngwladol mawr am elwa ar ddinistr rhyfel ac ar y gwaith atgyweirio wedi rhyfel.
Caewyd y cyfarfod gyda Harri Richards, y baledwr enwog, yn canu baled am yr ysgol fomio a ysgrifennwyd yn 1936. Offrymwyd y weddi gan Lywydd Cymdeithas y Cymod, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.
Na i academi Sain Tathan ar safle ysgol fomio Penyberth (03/09/08)
Bydd Dafydd Iwan a Jill Evans ASE yn ymuno gyda'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor i gynnau fflam heddwch ym Mhenyberth ger Pwllheli ddydd Llun, 8 Medi 2008, 2yh. Prif bwrpas y digwyddiad fydd cofio am y tân a gynnwyd gan Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine i geisio atal yr ysgol fomio yno yn 1936. Bydd y cyfarfod yn anfon neges glir i wleidyddion y Cynulliad Cenedlaethol o'r angen i wrthwynebu yn awr yr ysgol filwrol arfaethedig yn Sain Tathan.
Dyma ddatganiad Cymdeithas y Cymod yng Nghymru:-
"Gwrthwynebwn yr academi filwrol arfaethedig yn Sain Tathan am y rhesymau canlynol:
- Mae'r foeseg Gristnogol yn mynnu mai drwy garu gelyn y mae mynd i'r afael ag anghytundeb a gwrthdaro, nid trwy ei ladd a dinistrio ei eiddo.
- Bydd preifateiddio hyfforddiant milwrol yn creu mwy o ansefydlogrwydd, ac yn golygu na fydd atebolrwydd cyhoeddus am y gweithgareddau yno, dim ond i wneud elw i gyfranddalwyr y consortiwm preifat.
- Nid drwy sicrhau mewnlifiad pellach y mae amddiffyn Cymreictod bregus Bro Morgannwg."
Cofio Hiroshima (03/08/08)
Bydd aelodau o Gymdeithas y Cymod yn gosod "cysgodion" mewn sialc ar balmant Heol y Frenhines, Caerdydd ar fore Mercher 6ed Awst am 9am i gofio am Hiroshima ar ddydd cofio rhyngwladol Hiroshima, pan fydd Caerdydd yn ymuno gyda prifddinasoedd eraill y byd i gofio am y defnydd cyntaf o fom atomig ar ddinas. Mae'r cysgodion yn arwydd o gyrff y bobl a laddwyd gan y bom yn Hiroshima.
Enwau Cymraeg eto ar Fynydd Epynt, a darllen awdl fuddugol, Sadwrn 21 Mehefin 12.00yh (18/06/08)
Mae'r Fyddin wedi cytuno i ddymuniad Cymdeithas y Cymod i ail osod arwyddion gydag enwau Cymraeg y ffermydd ar Fynydd Epynt a bydd aelodau'r Gymdeithas yn cerdded o gwmpas y mynydd i weld yr arwyddion newydd yma ar ddydd Sadwrn 21 Mehefin 2008.
Bydd aelodau'r Gymdeithas yn cwrdd ger gweddillion Capel y Babell ar y mynydd am 12.00 ac yn cynnal gwasanaeth dan ofal y Parch Guto Prys ap Gwynfor i gofio am y gymuned o Gymry Cymraeg a arferai fyw ar y mynydd, cyn i'r Fyddin ddwyn y tir yn 1940.
Bydd y Parch T James Jones yn darllen ei awdl fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd sy'n sôn am fachlud yr haul dros Fynydd Epynt. Mae yn sôn hefyd fod tir Mynydd Epynt yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer milwrol a mai dim ond adfeilion y ffermydd sydd ar ôl.
Ymgyrch atal academi filwrol Sain Tathan ym Mharis (Non aux écoles militaires privées!) (03/06/08)
Gwelwyd yr ymgyrch yn erbyn yr academi filwrol arfaethedig yn Sain Tathan yn rhyngwladol yr wythnos hon pan agorodd Cymdeithas y Cymod stondin yn y 3ydd Salon Heddwch Rhyngwladol ym Mharis. Cynrychiolwyd dros dri chant o fudiadau heddwch a chyfiawnder Ewropeaidd yn y Salon ym Mharis a chafwyd dros 14,000 o ymwelwyr dros y penwythnos.
Paratowyd pamffledi dwyieithog mewn Cymraeg a Ffrangeg gan y Gymdeithas yn egluro fod consortiwm o gwmnïau preifat gan gynnwys cwmnïau arfau yn cynllunio i hyfforddi milwyr am elw o unrhyw fyddin a oedd yn barod i dalu yn academi filwrol Sain Tathan. Synnwyd y mudiadau eraill a'r ymwelwyr gan y syniad fod y consortiwm o gwmnïau arfau yn atebol i'w cyfranddalwyr yn unig, ac mai elw oedd ei hunig ffon fesur.
Cytunodd llawer i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan i brotestio yn erbyn y datblygiad arfaethedig peryglus hwn. Rhagwelwyd gan rhai y byddai yna bosibilrwydd yr hyfforddir byddinoedd preifat yn Sain Tathan os gallant fforddio i dalu'r cwmnïau arfau. Teimlwyd fod hyn yn ddatblygiad gofidus o safbwynt Ewropeaidd gan ofni y byddai gwledydd eu hunain yn dechrau cynlluniau o'r fath os bydd academi filwrol Sain Tathan yn cael ei sefydlu.
Cynhaliwyd gweithdai, sioe bypedau, ffilmiau a grwpiau drafod yn ogystal â'r arddangosfa yn y Salon. Trafodwyd pynciau yn ymwneud â heddwch a chyfiawnder gan gynnwys cofio am fywydau Martin Luther King a Ghandi. Cafodd cynlluniau i ddathlu'r mudiadau heddwch a dechrau Cymdeithas y Cymod Ryngwladol yn 2014 pan fydd yna weithgareddau i gofio am ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ar draws Ewrop.
Rhannwyd syniadau am wahanol ddulliau o brotestio yn ddi-drais gan gynnwys y Cylchoedd o Dawelwch dadleuol a gynhaliwyd yn Ffrainc gan y mynachod Ffransisgaidd i gefnogi ceiswyr lloches. Trefnwyd y Salon gan gangen Ffrainc o'r glymblaid dros ddegawd rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig i hybu heddwch a didreisedd gyda nawdd y CU ac UNESCO. Lleoliad y Salon oedd y Cité des Sciences et de l'Industrie ym Mharis.
Yn erbyn dydd cenedlaethol i'r fyddin (19/05/08)
Ystyriwn y bwriad i gynnal 'Dydd Cenedlaethol (sic) y Lluoedd Arfog' sydd wedi ei wyntyllu gan y Llywodraeth fel
- ymdrech at gynyddu'r meddylfryd militaraidd yng ngwledydd Prydain;
- ymdrech i adfywio Prydeindod imperialaidd.
Gwrthwynebwn yr ymdrechion hyn ar sail yr egwyddorion sy'n deillio o'n Ffydd a'n hargyhoeddiad mai militariaeth ac imperialaeth sy'n gyfrifol am lu o broblemau'n byd, ac er mwyn ceisio datrys y problemau hynny rhaid ymwrthod â'r meddylfryd hwnnw.
Galw am wrthod academi filwrol Sain Tathan (03/12/07)
Cynhaliodd Cymdeithas y Cymod Wylnos dros y penwythnos yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Pwrpas yr Wylnos oedd galw am wrthod y cais i adeiladu academi filwrol Sain Tathan. Dywedodd y Dr Stuart Tannock fod Raytheon, sydd yn un o'r partneriaid yn y consortiwm preifat Metrix a fydd yn rhedeg yr academi filwrol arfaethedig yn Sain Tathan, yn ymwneud ag adeiladu rocedi ar gyfer cario bomiau bychan cluster. Dywedodd fod y ffaith fod Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan wedi rhoi croeso i'r academi filwrol yn mynd yn erbyn polisi cynaladwyedd Llywodraeth y Cynulliad.
"Mae Cymru yn wlad sy'n llawn o sefydliadau milwrol" dywedodd y Parch. Guto Prys ap Gwynfor. "Ein bwriad ni fel Cymdeithas yw di-filitareiddo Cymru drwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd" dywedodd "Mae hyd yn oed awyr Cymru yn barth filitaraidd. Ein gorchwyl cyntaf fydd atal militareiddo pellach drwy wrthwynebu sefydlu academi filwrol Sain Tathan."
Cynhaliwyd gwasanaeth heddwch gan y Gymdeithas yn eglwys hynafol Sain Tathan ar y dydd Sadwrn. Atgoffodd y Dr. Wyn James yr aelodau mai ym Mro Morgannwg yr oedd dwy academi Gristnogol fwyaf Ewrop yn ystod Oes y Saint. Dywedodd fod y ddwy academi yma wedi hyfforddi cenhadon a aeth ar draws Ewrop i bregethu'r Efengyl. Ond y bydd yr academi filwrol yn hyfforddi pobl i fynd allan i'r byd i ladd ein cyd-ddyn.
Lansio gwefan newydd Cymdeithas y Cymod (04/08/07)
Bydd Cymdeithas y Cymod yn lansio ei gwefan newydd ar ddydd Iau, 9 Awst 2007, 2yh, yn y Babell Heddwch ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae croeso cynnes i bawb.
Bydd y wefan, sydd ar gael ar www.cymdeithasycymod.org.uk, yn darparu gwybodaeth am Gymdeithas y Cymod a'r diweddaraf am ei gwaith yn ogystal â chyhoeddiadau ac adnoddau ymgyrchu ac addysgiadol i'w lawrlwytho. Bydd hefyd yn cynnwys dyddiadur o ddigwyddiadau heddwch a chyfiawnder yng Nghymru, a hi fydd cartref gwefan Gŵyl Heddwch Cymru 2007 a gynhelir yng Nghaernarfon ar 22 Medi.
Ymunwch â'r Dr Robin Gwyndaf a'r wefeistres, Marika Fusser, i lansio'r wefan gyda sudd ffrwythau masnach deg a chaneuon heddwch.
Am ragor o wybodaeth galwch yn y Babell Heddwch, rhif stondin 246-248.
Digwyddiadau Cymdeithas y Cymod yn yr Eisteddfod Genedlaethol (01/08/07)
Bydd Cymdeithas y Cymod yn cynnal y gweithgareddau canlynol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni:
- Ddydd Llun, 6 Awst, 2yh, pabell Cytûn: Gwasanaeth coffa Hiroshima dan ofal y Parch Pryderi Llwyd Jones.
- Ddydd Llun, 6 Awst, 2.30yh, pabell Cytûn: Trafodaeth ar hawliau'r Cwrdiaid yn Nhwrci. Gydag Ann Clwyd AS, Hywel Williams AS, Jill Evans ASE ac eraill. Cadeirydd: Dr Robin Gwyndaf.
- Ddydd Iau, 9 Awst, 2yh, y Babell Heddwch: Lansio gwefan newydd y Gymdeithas dan ofal y Dr Robin Gwyndaf a'r wefeistres, Marika Fusser.
Am ragor o wybodaeth galwch yn y Babell Heddwch, rhif stondin 246-248.
Hawliau'r Iaith Gwrdeg ac Argae Ilisu (01/07/07)
Lythyr agored at yr Ysgrifennydd Tramor
Mae Cymdeithas y Cymod yn fudiad sy'n gwrthwynebu anghyfiawnder a thrais ar sail ein cred mewn grym cariad i ddatrys gwrthdaro yn y byd. Gofidiwn felly fel Cymdeithas o glywed am yr anghyfiawnder fod llys gweinyddol uchaf Twrci, sef Cyngor y Wladwriaeth, wedi barnu i ddiswyddo Abdullah Demirbas, Maer ardal Sur o Diyarbakir ynghyd â Chyngor y Bwrdeistref oherwydd bod y fwrdeistref wedi pleidleisio i roi gwasanaethau mewn ieithoedd eraill heblaw Tyrceg. Mae'r dref yn cynnwys 24% o bobl sy'n siarad Tyrceg, 72% Cwrdeg, a nifer o ieithoedd eraill bychain. Ar sail hyn penderfynodd y dref gynnig gwasanaethau swyddogol yn yr ieithoedd yma. Mae'r erlyniad wedi gofyn i'r llys ddedfrydu Demirbas a maer tref Diyarbakir, Osman Baydemir, a ddylai fod wedi rhoi ei feto ar y cynnig, i garchar am dair blynedd a hanner. Mae'r achos yn dal i fynd yn ei flaen ar y funud.
Mae Maer Demirbas yn uchel ei barch fel lladmerydd dros hawliau diwylliannol ac ieithyddol, ac mae ef wedi gwneud llawer i ddiogelu a hybu iawnderau ieithyddol yn ei fwrdeistref. Mae'r ffaith iddo gael ei ddiswyddo gan atal y datblygiad ieithyddol yn ei fwrdeistref yn dangos y modd mae llywodraeth Twrci yn gorthrymu diwylliant lleiafrifoedd ei gwlad ac yn anwybyddu dymuniad democrataidd ei dinasyddion.
Fel rydych yn gwybod mae diddordeb byw yng Nghymru mewn hawliau iaith sydd wedi ei seilio ar ein profiadau ein hunain. Mae gennym brofiad hefyd o weld tir ein gwlad yn cael ei foddi, ac felly ddiddordeb wrth ddeall fod Llywodraeth Twrci yn bwriadu codi argae Ilisu i foddi tir Cwrdiaid. Mi fydd degau o filoedd o bobl yn colli eu cartrefi a'u bywoliaeth os codi'r yr argae. Mae'n destun pryder i ni hefyd y gallai'r ffrae am ddŵr - a fydd yn dod yn fwy ac yn fwy prin yn y dyfodol - achosi rhyfeloedd. Felly rydym yn galw arnoch i osod amod ar Dwrci i beidio a chodi'r argae yn Ilisu, ac i atal yr erlyn ar Abdullah Demirbas ac Osman Baydemir cyn iddynt gael ymuno fel gwlad yn yr UE.
Gobeithiaf fod modd i chi ddod â hyn i sylw'r awdurdodau perthnasol, yn enwedig o gofio fod Twrci mewn trafodaethau ar y funud i ymuno yn yr Undeb Ewropeaidd. Byddai caniatáu Twrci i ymuno yn yr UE, cyn iddynt newid eu polisi gormesol tuag at ieithoedd lleiafrifol oddi fewn eu gwladwriaeth, yn gosod cynsail beryglus i hawliau dynol oddi fewn yr UE. Mae codi argae Ilisu hefyd yn beryglus o gofio prinder dŵr yn y Dwyrain Canol, a'r posibilrwydd o ryfela dros adnoddau dŵr.
Na i Gwmni Arfau yn Cynnal y Cyfrifiad (01/07/07)
Llythyr agored at Ganghellor y Trysorlys
Mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn gofidio eich bod wedi rhoi cytundeb gwaith y Cyfrifiad Prawf 2007 i'r Lockheed Martin Corporation, sy'n gwmni Americanaidd mawr sy'n cynhyrchu caledwedd a meddalwedd militaraidd.
Mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn rhan o fudiad heddwch ar sail ffydd, rhyngwladol sy'n credu yng ngrym cariad a'r ffordd ddi-drais o ddatrys gwrthdaro, ac felly rydym ni'n gwrthwynebu'r ffaith fod sefydliad yn y diwydiant militaraidd yn casglu gwybodaeth am deuluoedd yma.
Rydym yn ymwybodol fod gwybodaeth yn rhoi grym i sefydliadau, ac rydym yn gofidio am y defnydd o wybodaeth gan sefydliadau milwrol. Rwy'n erfyn arnoch i ail feddwl y trefniant yma gan sicrhau fod cytundeb y Cyfrifiad llawn yn cael ei roi gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol i sefydliad sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol gyda militariaeth.
Edifarhau ar Fynydd Epynt (25/06/07)

Chwifio'r faner heddwch yn y pentref ffug
Daeth dros ddeugain o bobl ynghyd ar Fynydd Epynt ddydd Sadwrn 23 Mehefin, i edifarhau mai yno yr hyfforddwyd milwyr a aeth i ryfel y Falklands. Trefnwyd gwasanaeth gan Gymdeithas y Cymod dan arweiniad y Parch Guto Prys ap Gwynfor yn adfeilion Capel y Babell ar y mynydd. Cafwyd cân ffarwel gan Tecwyn Ifan i Tony Blair.
Dywedodd Guto Prys ap Gwynfor "mai twyll yw cychwyn pob rhyfel, a mae pob math o gelwyddau yn cael eu dweud fel digwyddodd adeg y Falklands a hefyd gyda rhyfel Iraq". Bu Guto Prys ap Gwynfor yn gweithio yn wirfoddol gyda VSO ar Ynysoedd y Falklands cyn y rhyfel yno. Eglurodd fod y bobl a gwrddodd yno i gyd yn dyheu ar y pryd i adael yr ynysoedd i fynd i fyw bywyd gwell yng Nghanada neu Awstralia. Nid oeddynt yn gallu gadael yr ynys oherwydd roeddynt yn gweithio am gyflog bach gan gwmnïau mawr Prydeinig. Roedd Llywodraeth Prydain am gadw'r bobl yno, er mwyn cael esgus i gadw'r ynysoedd oherwydd bod olew a mwynau yno. Seiliwyd y cyfiawnhad am y rhyfel ar gelwydd. Erbyn hyn mae llawer iawn o'r bobl wedi gallu gadael.
Roedd rhai o'r bobl leol a oedd yn cofio'r amser cyn i'r Fyddin Brydeinig gipio eu cartrefi ar fynydd Epynt wedi ymuno yn y Gwasanaeth. Roeddynt yn gallu dangos ble fu eu cartrefi lle does dim ond olion bellach. Yn wir mae'r arwyddion ger y ffermydd yn nodi rhifau yn unig yn hytrach na'r enwau Cymraeg gwreiddiol. Mae Cymdeithas y Cymod yn ceisio cael y fyddin i osod yr enwau gwreiddiol yn ôl ar y ffermydd. Cerddodd y criw hyd at bentref ffug a godwyd gan y Fyddin i hyfforddi milwyr mewn ymladd "o dŷ i dŷ". Adeiladwyd eglwys a mynwent ffug yno a bob math o dai eraill sy'n hollol wag.
Cofio'r Falklands ar Fynydd Epynt (16/06/07)
Cynhelir Gwasanaeth o Edifarhau gan Gymdeithas y Cymod dan ofal y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor ger adfeilion Capel y Babell ar Fynydd Epynt am 1.00 o'r gloch pnawn Sadwrn 23 Mehefin. Gwasanaethodd Guto Prys ap Gwynfor yn wirfoddol gyda'r VSO ar Ynysoedd y Falklands am gyfnod, flynyddoedd cyn y rhyfel, a bydd yn sôn am y profiad hwnnw yn ystod y gwasanaeth. Mae'n debyg fod trigolion yr ynysoedd yn byw fel taeogion i gwmnïau mawr Prydeinig gan weithio am gyflogau isel iawn, heb obaith am adael yr ynysoedd pe dymunent.
Honnir gan y Fyddin Brydeinig mai ar Fynydd Epynt yr enillwyd rhyfel y Falklands drwy'r hyfforddi milwrol a ddigwyddodd yno cyn y rhyfel. Pwrpas y Gwasanaeth wrth Gapel y Babell fydd edifarhau am y ffaith fod tir Cymru wedi cael ei ddefnyddio i baratoi am ryfel a welodd pobl ifanc o Gymru yn ymladd yn erbyn milwyr o dras Gymreig o Batagonia ym myddin yr Ariannin. Mae'r Gymdeithas yn poeni hefyd fod llawer o'r cyn-filwyr heb gael y cymorth meddygol a seicolegol oedd angen arnynt ar ôl dioddef niwed meddyliol a chorfforol yn ystod y rhyfel, ac sy'n dal i ddioddef yr effeithiau ers y rhyfel.
Bydd aelodau'r Gymdeithas yn cwrdd ger gweddillion y Drovers Arms ar y mynydd am ginio am 12.00 cyn y gwasanaeth i gofio am y gymuned o Gymry Cymraeg a arferai fyw ar y mynydd, a mynychu'r dafarn, cyn i'r Fyddin ddwyn y tir yn 1940.
Mae tir Mynydd Epynt yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer milwrol a bydd aelodau Cymdeithas y Cymod yn cerdded ar draws y tir heb ganiatâd y fyddin i ddangos ei gwrthwynebiad i hyfforddi milwyr yno ar gyfer rhyfel y Falklands ac hefyd rhyfel anghyfreithlon Irac.
Gorfododd y Swyddfa Ryfel bedwar cant o bobl oedd yn ffermio'r mynydd i adael o fewn ychydig wythnosau yn 1940. Mae'r fyddin wedi ail enwi y ffermydd ac yn lle Clwyd Bach y Groes a Hirllwyn a Pentre Uchaf mae bellach Dixie's Corner, Piccadilly Circus a Gallows Hill.
Na i Adnewyddu Trident (11/03/07)
Mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn galw ar Aelodau Seneddol ar 14 Mawrth i wrthod y cynnig gan y Llywodraeth i adnewyddu arfau niwclear Trident. Pwrpas Cymdeithas y Cymod yw annog pobl i ddilyn ffordd tangnefedd fel y'i dysgwyd gan Iesu Grist ac i edrych am ffyrdd di-drais i ddatrys gwrthdaro ar bob lefel. Defnyddiwyd bomiau niwclear ar ddinasoedd Hiroshima a Nagasaki gan ladd miloedd o bobl hollol ddiniwed ac mae pobl yn dal i farw heddiw fel canlyniad i'r bomiau yma. Nid ydym am weld Hiroshima arall. Arfau y diafol yw arfau niwclear ac mae hyd yn oed y bygythiad o'u defnyddio yn bechod, heb sôn am eu defnyddio, a fyddai yn hollol anfoesol ac yn ddiwedd ar ein byd.
Mae yna gyfle yma i Lywodraeth Prydain, drwy ddilyn esiampl De Affrica, sydd wedi diarfogi ei harfau niwclear, ddangos arweiniad moesol i'n byd ni heddiw. Ni ellir disgwyl i wladwriaethau sydd heb arfau niwclear megis Iran ymwrthod oni bai ein bod ni yn dangos arweiniad iddynt. Mae Prydain yn dangos dwy safon o foesoldeb os yw ar un ochr yn gofyn i wlad fel Iran a De Korea ymwrthod ag arfau niwclear tra yn adnewyddu ei harfau ei hun.
Mae'r Eglwysi yng Nghymru wedi datgan yn glir yn erbyn adnewyddu Trident gan gynnwys Archesgob Caergaint y Gwir Barchedig Rowan Williams, ac Archesgob Cymru y Gwir Barchedig Dr Barry C Morgan. Dim ond drwy ddilyn ffordd tangnefedd, ffordd Iesu Grist y mae gobaith i'n byd. Mae'r arfau niwclear dieflig yn ein harwain yn syth i uffern ac anobaith.
Sain Tathan (21/01/07)
Yn wahanol i agwedd gwasaidd y BBC yn ei rhaglenni newyddion (Ionawr 16 ac 17), ac i daeogrwydd y gwleidyddion o bob plaid wleidyddol, nid yw Cymdeithas y Cymod yn croesawu'r newyddion fod Sain Tathan wedi cael ei ddewis fel canolfan filitaraidd newydd y Wladwriaeth Brydeinig. Ni allwn lawenhau wrth feddwl taw'r diwydiant lladd a dinistrio sy'n dod â gobaith economaidd i Gymru. Ni allwn orfoleddu wrth feddwl fod miloedd o bobl ifainc yn mynd i gael eu dyfodol wedi ei lywio gan y peiriant rhyfel. Credwn taw rhyfel a'r paratoadau ar ei gyfer yw un o felltithion mwyaf ein hoes; melltith sy'n peryglu dyfodol ein gwareiddiad a'n byd yn ogystal ag achosi dioddefaint a galar ar raddfa eang ar hyn o bryd. Nid mater o lawenydd yw hi bod ein harweinwyr gwleidyddol a diwylliannol yn rhoi eu gobaith ym mhwerau'r Fall.
