Croeso i wefan
Gŵyl Heddwch Cymru 2008

Cynhelir Gŵyl Heddwch Cymru 2008 dros benwythnos y 18fed a 19eg o Hydref ym Mangor. Bydd yn gyfle i bobl o Gymru benbaladr gymryd stoc, cyfnewid gwybodaeth, bod yn rhan o drafodaeth fywiog ac edrych tuag at y dyfodol.

Y trefnwyr lleol eleni yw Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn gyda chymorth Amnest Menai, Amnest y Myfyrwyr a Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig (Bangor).

Noddir yr Ŵyl gan CND Cymru, Cynefin y Werin a Chymdeithas y Cymod,.

Lleoliad: Prifysgol Bangor, Adran Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor, Gwynedd LL57 1UT

Parcio am ddim

Mynediad am ddim (sesiynau yn ystod y dydd), croesawn gyfraniadau

Stondinnau (ffi o £10, cofrestru ymlaen llaw)

Arddangosfeydd arfaethedig:

Cliciwch yma ar gyfer y rhaglen lawn o sgyrsiau, gweithdai a gig

poster

Gallwch lawrlwytho poster yr ŵyl a'i ddosbarthu'n lleol. Diolch am eich cefnogaeth!