Rhaglen Gŵyl Heddwch Cymru 2008

Dydd Sadwrn, Hydref 18fed - Sesiynau dydd

09.30

Drysau yn agor. Ymgynull yn y Fforwm (Ystafell Gyffredin yr Adran Cyfrifiaduron) drwy goridor cysylltu. Coffi/te

10.00-10.20

Agoriad: Stephen Thomas, Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol

10.30-11.30

Sesiwn lawn, darlithfa

Siaradwr: Jill Evans ASE, Cadeirydd CND Cymru

50 mlynedd ar ôl sefydlu CND, bydd Jill yn trafod amlhad niwclear a’r Dwyrain Canol.

11.30-12.00

Fforwm: Coffi, te, bisgedi

12.00-13.00

Dewis o weithdai, ystafelloedd seminar

  1. PAWB (Pobl Atal Wylfa B) gyda Dylan Morgan. Atal Wylfa B! Yr ymgyrch bresennol.
  2. Academi filwrol Sain Tathan. Newyddion, safbwyntiau a'r ymgyrch, gyda James Maiden
  3. Ydy crefydd yn achosu rhyfel? gyda'r Parch. Guto Prys ap Gwynfor, Cymdeithas y Cymod
  4. Rhyfel, heddwch a'r sinema gyda Jonathan Ervine, Prifysgol Bangor

13.00-14.15

Amser cinio

Croeso i bobl gael awyr iach a darganfod dewis eang o fwytai, tafarnau neu gaffis yn Stryd Fawr Bangor

14.30-15.45

Sesiwn lawn, darlithfa

Siaradwr: Mark Curtis

Croeso i awdur enwog sydd wedi datbwytho hanes cyfrinachol polisïau tramor y llwyodraeth Brydeinig, i ddatgelu gwirionedd cythryblus

15.45-16.15

Fforwum: Coffi, te, bisgedi

16.20-17.30

Sesiwn lawn, darlithfa

Siaradwr: Moazzam Begg

Bydd llawer ohonom yn cofio anerchiad yn Aberystwyth gan Azmet Begg (pan oedd ei fab Moazzam wedi ei garcharu ym Mae Guantanamo), hefyd, ar ôl iddo fo gael ei ryddhau, darlith gofiadwy gan Moazaam ei hun yn Fforwm Cymdeithasol Cymru dwy flynedd yn ôl. Mae Moazzam yn dychwelyd i Gymru i siarad ar ran mudiad Cageprisoners ac i drafod ei waith dros hawliau dynol, ac yn galw am gau Bae Guantanamo, diwedd i 'rendition' a charchariad heb gyhuddiad.

18.00

Diwedd y sesiwn dydd

Nos Sadwrn, Hydref 18fed - Gig

Anglesey Arms, Porthaethwy (tua milltir o Fangor, yn syth dros Bont y Borth, ar y chwith. Parcio tu cefn, bwyd bar ar gael)

19.00

Cyfarfod anffurfiol yn yr Anglesey Arms i drafod Gwyliau Heddwch Cymru dros beint.

20.00-23.30

Bandiau: Trnstone, Bandabacana, DJ HippyAd

Mynediad £7, gostyngiadau £5

Elw at Bustan Qaraaqa, canolfan gymunedol cynaladwyedd sydd yn cael ei sefydlu ym Mhalesteina gan amgylcheddwyr (cyn fyfyrwyr Bangor a gweithredwyr gyda'r Grŵp Heddwch a Chyfiawnder

Dydd Sul, Hydref 19eg

09.30

Drysau yn agor. Ymgynull yn y Fforwm (Ystafell gyffredin yr Adran Cyfrifiaduron) drwy goridor cysylltu. Coffi/te

10.00-11.00

Sesiwn lawn, darlithfa

Siaradwr: Greg Muttitt

Mae Greg yn llefarydd ar ran Platform ac yn drefnydd ar ymgyrch Hands Off Iraqi Oil. Mae o'n trafod sut mae'r cwmniau olew mawr yn ceisio ennill yn ôl yr olew wedi a gollwyd trwy'r gwladoli gwreiddiol, yng nghyddestun yr argyfwng olew bydeang.

11.00-11.30

Fforwm: coffi, te, bisgedi

11.35-12.30

Sesiwn lawn, darlithfa

Siaradwr: Mary Compton

Mae Mary Compton o Bowys wedi chwarae rhan blaengar yn yr NUT (Undeb Cenedlaethol yr Athrawon). Mae ganddi hi ddiddordeb mawr mewn addysg ym Mhalesteina.

12.30 -13.30

Amser cinio

Gyda'r rhan fwyaf o fwytai ar gau, bydd lluniaeth syml ar gael yn y Fforwm.

Caneuon gan Gôr Cymunedol Bangor

13.30 - 14.30

Sesiwn lawn, Darlithfa

Siaradwr: Dr Bianca Ambrose-Oji

Mae Dr Ambrose-Oji yn ysgolhaig o Ganolfan Tir Cras, Prifysgol Bangor. Bydd yn trafod effaith newid hinsawdd ar adnoddau'r Affrig, a'r goblygiadau byd-eang o hynny.

14.30-15.20

Dewis o weithdai, ystafelloedd seminar

  1. Gwleidyddiaeth newydd America Ladin gyda Ben Gregory, Cymru Nicaragua
  2. Mwy o rym nag y sylweddolwn - grym gweithredu gyda Milan Rai, Peace News/JNV
  3. Yr Affrig heddiw. Trafodaeth gyda Nick Jewitt a'r Dr Ambrose-Oji
  4. Rhyfel ac imperialaeth gyda Iain Dalton, cynrychiolydd myfyrwyr Bangor y Blaid Sosialaidd

15.35- 16.00

Fforwm

Adeiladu heddwch: Stephen Thomas, Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol

16.00

Diwedd yr Ŵyl