
Ganed Henry Richard yn Nhregaron yn fab i weinidog gyda'r Hen Gorff. Penodwyd ef yn ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch yn 1848 gan ennill iddo'i hun y teitl "Apostol Heddwch". Yn ystod ei ysgrifenyddiaeth trefnodd Henry Richard bedair cynhadledd heddwch fawr yn ystod y cyfnod 1849-53 ym Mrwsel, Llundain, Paris a Frankfurt, a gwnaeth deithiau personol hir ar y cyfandir i hyrwyddo cyflafareddiad fel dull o ddatrys anghydfod rhyngwladol. Yn rhinwedd ei swydd fel ysgrifennydd bu'n golygu papur newydd y Gymdeithas, yr Herald of Peace.

Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Capel Marlborough yn yr Old Kent Road yn Llundain cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful yn 1868, fel y radical o ymneilltuwr Cymreig cyntaf i fynd i'r Senedd yn Llundain.
Llwyddiant mawr Henry Richard oedd perswadio llywodraeth Gladstone i argymell gwledydd Ewrop i gwtogi ar eu harfau. Ond methodd gynnig ganddo yn y senedd drwy chwe pleidlais yn unig i gondemnio anallu Tŷ'r Cyffredin i lunio polisi mewn materion yn ymwneud â rhyfel a heddwch a chysylltiadau rhyngwladol. Parhaodd yr anallu seneddol hwn hyd heddiw, er i Tony Blair gynnig am y tro cyntaf bleidlais i'r senedd ar fater rhyfel yn Irac. (Er, gan fod mesur Henry Richard wedi methu nid oedd y bleidlais honno yn rhwymo'r Prif Weinidog i beidio â mynd i ryfel pe bae'r bleidlais wedi mynd yn ei erbyn. Ond sicrhaodd Tony Blair bleidlais gadarnhaol dros ryfel ar sail celwyddau am arfau honedig.) Roedd Henry Richard yn arweinydd ar yr aelodau seneddol o Gymru yn y Senedd hyd at ei farw yn Nhregarth ger Bangor. Cafodd ei gladdu ym mynwent yr Annibynwyr yn Abney Park Cemetery, Stoke Newington, Llundain.
Cafodd y Parchedig Henry Richard AS ei wneud yn Gadeirydd Undeb Annibynwyr Cymru a Lloegr yn 1877. Gweithiodd yn galed hefyd fel Samuel Roberts o'i flaen yn erbyn caethwasiaeth, er ni allai gefnogi y rhyfel cartref yn yr Unol Daleithiau.
Dadorchuddiwyd cofeb i Henry Richard yn Nhregaron ar 18 Awst 1893. Cynlluniwyd y gofeb gan Albert Toft. Ar y plac o dan y gofgolofn y mae'r geiriau isod wedi eu cerfio'n Gymraeg ac wedyn yn Saesneg:
Cedwais dri pheth mewn cof yn barhaus: peidio anghofio iaith fy ngwlad a phobl ac achos fy ngwlad a pheidio esgeuluso unrhyw gyfle i amddiffyn cymeriad a hyrwyddo buddiannau fy ngwlad.
Gorwedd fy ngobeithion am ddifodiant y gyfundrefn ryfel yn argyhoeddiad i barhau y bobl yn hytrach nag ym mholisïau cabinet a thrafodaethau senedd.