Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Dymuniad yr ifanc i greu heddwch

Darn o Heddwch

Ar bumed diwrnod Eisteddfod yr Urdd Rhuthun, daeth pedair merch frwdfrydig, pymtheg oed o Rhyl i mewn i'r Babell Heddwch. "So be sy'n mynd ymlaen fan hyn? Dan ni di clywed dyma un o'r llefydd gore ar y maes."

Roedd un ochr o'r stondin yn jig-so o ddarnau o heddwch. Roedd tua 250 o bobl ifanc wedi llenwi eu darn nhw, eu barn pam mae angen heddwch, lle mae angen heddwch a sut fedrwn ni greu heddwch. Roedd nifer wedi cyfeirio at eu profiadau personol o fwlio a chwffio a rhai wedi gwneud y cysylltiad gyda'r bwlis sy'n strytio ar lwyfannau rhyngwladol.

Mynegwyd yr awydd i ddysgu beth fedran nhw ei wneud i fod yn rhan o greu heddwch, i ddysgu'r sgiliau i ddatrys gwrthdaro. Roedd cryn ddiddordeb mewn bod yn rhan o rwydwaith o bobl ifanc byd-eang sydd hefyd yn gweithio tuag at heddwch.

Dwy o ferched Friog a Phantperthog yn Ne Gwynedd sydd tu ôl i'r cynllun, Luci a Fay. Ym mis Ebrill 2006 aethant i Antwerpen ar ran Gwerin y Coed a Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaladwy. Rŵan maen nhw'n gyd-lunwyr prosiect rhyngwladol Darn o Heddwch ac wedi ceisio am bres Ewrop i ddod a 12 gwlad fel yr Aifft, Algeria, Twrci, a gwledydd Groeg a Phwyl i Gaerdydd ym mis Rhagfyr 2006 i sefydlu Rhwydwaith Ieuenctid dros Heddwch.

Cafodd Gwerin y Coed grant o dros £5,000 gan Gymdeithas y Cymod i ymchwilio i mewn i siâp y prosiect heddwch yng Nghymru yn seiliedig ar syniadau pobl ifanc. Talodd CND Cymru am stondin y Steddfod.

Am fwy o wybodaeth ar sut fedr bobl ifanc eich ardal chi ymuno â'r prosiect, e-bostiwch awel@gwerin.org neu ffoniwch swyddfa Gwerin y Coed ar 01766 771515.