Irac
Mae Cymdeithas y Cymod yn gweithio dros heddwch ar lefel ryngwladol ac yma yng Nghymru. Pan oedd Llywodraeth Prydain yn paratoi i fynd i ryfel yn Irac cynhaliodd aelodau'r Gymdeithas brotestiadau yn y Swyddfa Dreth i ddwyn sylw at y gwariant ar arfau sy'n dod o'n trethi. Protestiwyd hefyd ar safleoedd milwrol yng Nghymru, i ddangos y cysylltiad gyda'r rhyfel yn Irac. Pan laniodd taflegryn ar farchnad yn Baghdad gan ladd llawer o bobl ddiniwed aeth aelodau'r Gymdeithas i gynnal gwasanaeth o edifeirwch y tu allan i ffatri dechnoleg filwrol Raytheon ym Mrychdyn. Roedd yna honiadau yn y wasg mai un o arfau cwmni Raytheon oedd yn gyfrifol am y gyflafan yn Bagdad, er i'r cwmni wadu hynny.
Ers dechrau'r rhyfel yn Irac mae yna nifer o filwyr o Gymru wedi eu lladd yno, ac rydym wedi bod yn galw yn gyson ar y Llywodraeth i dynnu'r milwyr allan o Irac. Mae cannoedd o bobl wedi arwyddo ein deiseb ar stondin y Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae croeso i chi hefyd arwyddo'r ddeiseb a'i hanfon yn ôl atom. Gwell fyth os gallwch gasglu fwy o enwau i'r ddeiseb!
Roeddem yn credu fod ein hymgyrch i gael y milwyr allan o Irac wedi bod yn llwyddiant pan gafwyd datganiad gan y Llywodraeth ei bod am leihau'r nifer o filwyr o Brydain sydd yno. Ond bron yn syth daeth datganiad arall i ddweud fod y Llywodraeth am anfon fwy o filwyr i Afghanistan i ymladd. Nid oes diwedd ar flys y Llywodraeth Brydeinig i ryfela - yn rhywle yn ein byd!
Byddwn fel Cymdeithas yn dwysáu ein hymgyrch i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddod a'r milwyr adref, oherwydd bod hyd yn oed arbenigwyr milwrol bellach yn credu fod y milwyr yn rhan o'r broblem, ac yn darged, yn hytrach nag yn datrys y broblem o drais a dioddefaint yn Irac.
