Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Arfau niwclear

Baner Cymdeithas y Cymod ar ffens Faslane

Baner Cymdeithas y Cymod ar ffens Faslane, Tachwedd 2006

Bob blwyddyn yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol bydd y Gymdeithas yn cynnal gweithgareddau i gofio am y bom atomig a ollyngwyd ar Hiroshima ar Awst 6ed 1945. Gallwch weld adroddiad ar brotest Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2003 drwy glicio YMA. Byddwn yn cyfuno'r cofio am Hiroshima a Nagasaki â'n gwrthwynebiad i arfau niwclear Prydain, system Trident, ac i gynlluniau'r Llywodraeth i gael system arfau niwclear newydd.

Rydym hefyd yn cefnogi protest Faslane 365 yn erbyn olynydd i Trident, ac ym mis Tachwedd 2006 aeth criw o'r Gymdeithas yna am ddau ddiwrnod fel rhan o ddirprwyiaeth Gymreig.


Terfyn ar Trident

Fel pawb a phobeth arall y mae arfau rhyfel yn heneiddio a phan ddigwydd hynny fe gymerir yn ganiataol fod gofyn cael rhai mwy nerthol yn eu lle.

Felly yn 1980 disodlwyd system arfau niwclear llong danfor Polaris gan system rymusach Trident gyda phob un o'i phedair llong danfor yn meddu cymaint o allu dinistriol â: 384 bom Hiroshima.

Ond daw oes weithredol Trident i ben tua 2025 ac y mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ystyried cael olynydd iddi. Gan fod Prydain (ers 35 o flynyddoedd yn ôl!) wedi arwyddo Cytundeb Atal Ymlediad Niwclear sy'n galw'r arwyddwyr i gyd-drafod mewn ymgais i ddwyn y ras arfau i ben, gellid tybio y nyddai terfyn mordaith llongau tanfor Trident yn gyfle i roi terfyn ar ein harfogaeth niwclear.

Ysywaeth y mae lle i ofni nad felly y bydd hi o gwbl. Datgelwyd cyfeiriad meddwl y Llywodraeth yng ngeiriau John Reid, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, pan ddywedodd: "Mae'n debyg y bydd angen penderfynu ynglŷn â beth, os unrhyw beth, a ddylai gymryd lle ataliwr niwclear y Deyrnas Unedig yn ystod oes y senedd bresennol." A mynegodd ei farn bersonol fod arnom angen arfau niwclear newydd rhag ofn y daw rhyw fygythiad i'r amlwg rywle, ryw bryd yn y dyfodol.

Fe allai'r Llywodraeth benderfynu estyn oes y Trident presennol neu sicrhau system newydd a allai gostio tua chwe biliwn y flwyddyn. Yn hyn i gyd y mae bwriadau'r Unol Daleithiau yn allweddol bwysig. Wedi'r cyfan mae taflegrau Trident ar les oddi wrth yr UD a'i lloerennau hi fyddai'n tywys eu hergydion. Bwriadau milwrol llywodraeth Bush fydd yn penderfynu llwybr Prydain yn y pen draw.

Gan fod sôn bellach am ddefnyddio arfau niwclear yn fwy lleol ar faes y gad mae'r drafodaeth am ddyfodol Trident yn wirioneddol bwysig. A chofier nad yw'r Llywodraeth yn ystyried mai unig ddiben ei harfogaeth niwclear ydyw atal bygythiad gan elyn. Yn ôl yn 2002 datganiad Geoff Hoon, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ar y pryd, y gellid eu defnyddio mewn ymateb i ymosodiadau cemegol neu fiolegol. Yn fwy na hynny mynnodd y gellid gwneud y defnydd cyntaf o'n harfau niwclear yn erbyn gwlad y tybid bod ei bygythiad yn un difrifol iawn. Yn wyneb hyn i gyd mae yna bwysau ar y garfan heddwch i roi cyhoeddusrwydd i holl agweddau ein harfogaeth niwclear. Rhoddwn ein cefnogaeth lawn i CND Cymru yn ei alwad ar Lywodraeth Prydain


Yr Eglwysi a Trident

Mae Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon wedi cyhoeddi dogfen drafod am ddyfodol arfau niwclear y Deyrnas Gyfunol. Mae'r ddogfen yn annog yr Eglwysi i drafod y pwnc pwysig yma, er nad yw yn cymryd unrhyw ochr yn y ddadl. Mae hwn yn rhoi cyfle i ni fel heddychwyr ddangos arweiniad i'r Eglwysi drwy osod ein safbwynt yn glir yn erbyn yr arfau dieflig yma. Mae yna nifer o ffeithiau sydd yn werth i ni eu defnyddio yn y ddadl:

Beth allwn ni ei wneud?