Sain Tathan
Am unwaith mae'r Llywodraeth wedi gwrando ar Gymdeithas y Cymod a llu o heddychwyr eraill yng Nghymru ac wedi penderfynu sgrapio'r prosiect yma er mwyn arbed arian.

Ers y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog Rhodri Morgan yn Ionawr 2007 mae Cymdeithas y Cymod wedi gwrthwynebu sefydlu academi filwrol yn Sain Tathan. Fel y dywedodd ein Llywydd y Parch Guto Prys ap Gwynfor ar y pryd:
"Ni allwn lawenhau wrth feddwl taw'r diwydiant lladd a dinistrio sy'n dod â gobaith economaidd i Gymru. Bydd miloedd o bobl ifanc yn mynd i gael eu dyfodol wedi ei lywio gan y peiriant rhyfel. Credwn taw rhyfel a'r paratoadau ar ei gyfer yw un o felltithion mwyaf ein hoes. Mae ein harweinwyr gwleidyddol a diwylliannol yn rhoi eu gobaith ym mhwerau'r Fall."
Erbyn hyn mae manylion yr academi filwrol yn Sain Tathan wedi cael ei raddol ddatgelu drwy waith ymchwil gan Cynefin y Werin.
Prif amcan y Weinyddiaeth Amddiffyn yw sefydlu academi ble fydd cwmnïau arfau, mewn consortiwm o'r enw Metrix ,yn hyfforddi lluoedd arfog Prydain a gwledydd eraill sy'n barod i dalu, er mwyn elw. Bydd £16 biliwn o arian y trethdalwyr yn cael ei gyfrannu tuag at y fenter cyllido breifat (PFI) fwyaf mewn hanes ar y cyd gyda Metrix. Ni fydd rheolaeth ar ba fyddinoedd a fydd yn cael ei hyfforddi yno, mae'n bosib bydd rai yn dod o wledydd gyda record wael mewn hawliau dynol.
Lleiheir costau hyfforddi milwrol y Weinyddiaeth Amddiffyn wrth gau canolfannau hyfforddi, diswyddo hyfforddwyr, a throsglwyddo'r gweddill i weithio i'r consortiwm Metrix yn Sain Tathan. Oherwydd mai drwy drosglwyddiadau y bydd swyddi da'r hyfforddwyr yn dod i Sain Tathan mae Undeb y Gweithwyr Cyhoeddus PCS yn rhagweld mai dim ond ychydig swyddi gwael ar gyflog isel fydd ar ôl i bobl leol Bro Morgannwg.
Mae'r consortiwm Metrix a fydd yn rhedeg Sain Tathan yn cynnwys cwmnïau arfau Raytheon, Qinetiq, AgustaWestland, EDS, a Serco. Mae Raytheon yn adeiladu taflegrau i gario arfau o bob math megis bomiau clwstwr. Mae Qinetiq yn adran ymchwil y Weinyddiaeth Amddiffyn a gafodd ei breifateiddio yn ddiweddar gan wneud elw sylweddol i nifer o reolwyr y Weinyddiaeth. Mae AgustaWestland yn gwneud hofrenyddion milwrol megis yr Apache. Mae EDS yn gwmni sy'n gwneud systemau cyfrifiadurol mawr ar gyfer byddinoedd ar draws y byd. Mae cwmni Serco yn gyfrifol am reoli canolfan arfau niwclear Aldermaston a sefydliadau tebyg.
Rhaid i ni ofyn: Beth fyddai effaith sefydlu academi filwrol yn Sain Tathan?
- Gwneud i gwmnïau eraill gadw draw o Fro Morgannwg, rhag ofn bod yn agos at darged amlwg posib i derfysgwyr, gyda'r holl drefniadau diogelwch amlwg o'i gwmpas.
- Gwneud pobl ardal Sain Tathan yn ddibynnol ar waith milwrol sydd yn y busnes o ladd a niweidio pobl.
- Denu a hyfforddi ieuenctid Cymru i ryfela.
- Bydd ardal wledig Sain Tathan yn gweld cynnydd sylweddol mewn trafnidiaeth i mewn ac allan o'r safle gan osod pwysau hefyd ar y farchnad dai leol ac ar wasanaethau cyhoeddus.
- Gwneud elw mawr i gwmnïau arfau ar sail buddsoddiad o £16 biliwn o arian cyhoeddus y trethdalwyr.
- Hyrwyddo Cymru fel gwlad sy'n flaenllaw yn y byd yn y busnes o hyfforddi milwrol ar gyfer byddinoedd pob math o wledydd.

Protestio tu allan i'r Senedd flwyddyn union wedi cyhoeddiad project Sain Tathan, Ionawr 2008
Rydym yn gwrthwynebu'r datblygiad yma ar sail ein hegwyddor fel Cymdeithas fod rhyfel a hyfforddi ar gyfer rhyfela yn bechod yn erbyn Duw cariad a'r ddynoliaeth.
Cynhaliodd ein Cymdeithas Wylnos yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd. Pwrpas yr Wylnos oedd gwrthwynebu y cais i adeiladu yr academi filwrol yn Sain Tathan.
"Mae Cymru yn wlad sy'n llawn o sefydliadau milwrol" dywedodd ein llywydd y Parch. Guto Prys ap Gwynfor. "Ein bwriad ni fel Cymdeithas yw di-filitareiddo Cymru drwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd" dywedodd, "Mae hyd yn oed awyr Cymru yn barth filitaraidd. Ein gorchwyl cyntaf fydd atal militareiddo pellach drwy wrthwynebu sefydlu academi filwrol Sain Tathan."
Cynhaliwyd gwasanaeth heddwch gan y Gymdeithas yn eglwys hynafol Sain Tathan ar y dydd Sadwrn canlynol. Atgoffodd y Dr. Wyn James yr aelodau mai ym Mro Morgannwg yr oedd dwy academi Gristnogol fwyaf Ewrop yn ystod Oes y Saint. Dywedodd fod y ddwy academi yma wedi hyfforddi cenhadon a aeth ar draws Ewrop i bregethu'r efengyl. Ond y bydd yr academi filwrol yn hyfforddi pobl i fynd allan i'r byd i ladd ein cyd-ddyn.
Mae'r gwaith o gynllunio'r academi filwrol yn Sain Tathan wedi digwydd heb unrhyw ddadl gyhoeddus yn y Senedd yn Llundain nac yng Nghaerdydd. Digwyddodd y cyfan yn gyfrinachol. Felly rydym yn galw nawr am ddadl gyhoeddus agored ynglŷn â'r academi ac am y gwariant o £16 biliwn o arian cyhoeddus. Mae yna ddadl gref i wario'r arian yma i wella ein gwasanaethau iechyd ac addysg yng Nghymru.
Hwn yw'r fenter cyllido breifat (PFI) mwyaf yn hanes Prydain gan breifateiddio hyfforddi milwrol Prydain ac eto ni fu dadl yn y Senedd amdano.
Hwn yw'r buddsoddiad mwyaf yng Nghymru gan y Llywodraeth yn Llundain erioed yn hanes ein gwlad. Er mwyn cadw ein cenedl yn rhan o'r Deyrnas Gyfunol? Tybed.
Rydym hefyd yn gofyn i'r Cynulliad i egluro sut mae'r academi filwrol yn cyflawni amcanion polisi'r Llywodraeth am Gymru werdd gynaliadwy a dinasyddiaeth ryngwladol gyfrifol.
Ymgyrch atal academi filwrol Sain Tathan ym Mharis (Non aux écoles militaires privées!)

Stondin Cymdeithas y Cymod yn y Salon Heddwch Rhyngwladol ym Mharis 2008
Gwelwyd yr ymgyrch yn erbyn yr academi filwrol arfaethedig yn Sain Tathan yn rhyngwladol y gwanwyn hwn pan agorodd Cymdeithas y Cymod stondin yn y 3ydd Salon Heddwch Rhyngwladol ym Mharis. Cynrychiolwyd dros dri chant o fudiadau heddwch a chyfiawnder Ewropeaidd yn y Salon ym Mharis a chafwyd dros 14,000 o ymwelwyr dros y penwythnos.
Paratowyd pamffledi dwyieithog mewn Cymraeg a Ffrangeg gan y Gymdeithas yn egluro fod consortiwm o gwmnïau preifat gan gynnwys cwmnïau arfau yn cynllunio i hyfforddi milwyr am elw o unrhyw fyddin a oedd yn barod i dalu yn academi filwrol Sain Tathan. Synnwyd y mudiadau eraill a'r ymwelwyr gan y syniad fod y consortiwm o gwmnïau arfau yn atebol i'w cyfranddalwyr yn unig, ac mai elw oedd ei hunig ffon fesur.
Cytunodd llawer i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan i brotestio yn erbyn y datblygiad arfaethedig peryglus hwn. Rhagwelwyd gan rai y byddai yna bosibilrwydd yr hyfforddir byddinoedd preifat yn Sain Tathan os gallant fforddio i dalu'r cwmnïau arfau. Teimlwyd fod hyn yn ddatblygiad gofidus o safbwynt Ewropeaidd gan ofni y byddai gwledydd eu hunain yn dechrau cynlluniau o'r fath os bydd academi filwrol Sain Tathan yn cael ei sefydlu.
Penyberth a Sain Tathan

Y fflam heddwch wrth gofeb tân Penyberth
Ymunodd Dafydd Iwan a Jill Evans ASE gyda'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor i gynnau fflam heddwch ym Mhenyberth ger Pwllheli ar 8 Medi 2008. Prif bwrpas y digwyddiad, a fynychwyd gan dros 50 o bobl, oedd cofio am y tân a gynnwyd gan Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine i geisio atal yr ysgol fomio yno yn 1936. Anfonodd y cyfarfod neges glir i wleidyddion y Cynulliad Cenedlaethol o'r angen i wrthwynebu yn awr yr ysgol filwrol arfaethedig yn Sain Tathan.
Dyma ddatganiad Cymdeithas y Cymod yng Nghymru:-
"Gwrthwynebwn yr academi filwrol arfaethedig yn Sain Tathan am y rhesymau canlynol:
- Mae'r foeseg Gristnogol yn mynnu mai drwy garu gelyn y mae mynd i'r afael ag anghytundeb a gwrthdaro, nid trwy ei ladd a dinistrio ei eiddo.
- Bydd preifateiddio hyfforddiant milwrol yn creu mwy o ansefydlogrwydd, ac yn golygu na fydd atebolrwydd cyhoeddus am y gweithgareddau yno, dim ond i wneud elw i gyfranddalwyr y consortiwm preifat.
- Nid drwy sicrhau mewnlifiad pellach y mae amddiffyn Cymreictod bregus Bro Morgannwg."
Diffynodd Jill Evans eiriau'r Parchedig Lewis Valentine, a ddywedodd na fedrai aros yn fud wrth weld y paratoi at ryfel a bomio dinasoedd. Dywedodd Jill Evans, "Ni allwn ni heddiw aros yn fud a thawel gan fod yr hawl a'r cyfrifoldeb arnom i beidio â derbyn dim ar unrhyw bris, megis academi filwrol arfaethedig Sain Tathan, ar sail swyddi newydd yn unig. Mae hawl gyda ni i ofyn pa fath o swyddi fydd yn dod i bobl leol gan fod angen economi gynaliadwy yma yng Nghymru. Mae gan Gymru botensial fawr fel grym yn y byd dros heddwch. Rhaid i ni ddewis pa fath o Gymru rydym ni ei eisiau. Penderfyniad San Steffan oedd academi filwrol Sain Tathan, nid penderfyniad a wnaed yng Nghymru."

Jill Evans a Dafydd Iwan ym Mhenyberth
Y prif siaradwr arall oedd Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan, a ddywedodd, "Ni fedra i feddwl am le mwy addas i ddechrau fy nhymor newydd fel Llywydd y Blaid nag yma ym Mhenyberth lle y protestiodd dau o gyn llywyddion y Blaid yn erbyn yr ysgol fomio ar y dydd yma yn 1936."
Aeth Dafydd Iwan yn ei flaen i ddweud, "Nid yw Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros yr academi filwrol arfaethedig yn Sain Tathan, ac mae'r amser wedi dod i ofyn beth yw pwrpas a gwerth y fath sefydliad i fywyd Cymru. Mae gormod o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoadau at ryfel yn barod gyda dros 140 o sefydliadau milwrol. Mae angen buddsoddi mewn heddwch nid rhyfel." Beiodd y corfforaethau rhyngwladol mawr am elwa ar ddinistr rhyfel ac ar y gwaith atgyweirio wedi rhyfel.
Caewyd y cyfarfod gyda Harri Richards, y baledwr enwog, yn canu baled am yr ysgol fomio a ysgrifennwyd yn 1936. Offrymwyd y weddi gan Lywydd Cymdeithas y Cymod, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.
