Cymdeithas y Cymod
  • English
  • Français
  • Deutsch
  • Dansk
  • Nederlands

Waldo Williams
(1904 - 1971)

Pa mor aml tybed y clywsom eiriau Y Tangnefeddwyr yn cael eu hadrodd neu yn cael eu canu i gyfeiliant cerddoriaeth hudol Eric Jones? Mae'n amlwg fod y gerdd wedi cydio a bod Waldo, ein bardd heddwch, yn dal i dystio i rin y tangnefeddwyr, plant i Dduw.

Cafodd Waldo Goronwy Williams ei eni ar Fedi 30, 1904 yn Hwlffordd lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr. Cafodd ei rieni ddylanwad dwfn arno. Roedd ei fam Angharad yn hynod am ei thynerwch a'i haelioni. Gŵr cadarn ei argyhoeddiad oedd Edward ei dad, yn heddychwr ac yn aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol. Fe nododd Waldo eu rhinweddau mewn geiriau cofiadwy:

Mae Gwirionedd gyda 'nhad
Mae Maddeuant gyda 'mam

Ac mae'r llythrennau bras yn awgrymu'r trosgynnol.

Saesneg oedd iaith yr aelwyd a bu trobwynt ym mywyd Waldo pan benodwyd ei dad yn brifathro'r ysgol ym Mynachlog-ddu ac wedi hynny yn Llandysilio. Fe'i bwriwyd i fôr o Gymreictod a bu ei brofiad o ddysgu'r Gymraeg a dod i'w hanwylo yn un ysgytwol. Ac yno wrth odre'r Preseli fe gafodd brofi rhagoriaeth "bro brawdgarwch" a'r ddyfnder perthynas y daeth i'w gyfleu yn ei ddefnydd o'r gair "adnabod".

Hawdd tybio bod Waldo wedi tyfu'n naturiol i fod yn heddychwr drwy ddylanwad yr aelwyd. Dyma gartref na chafodd ei sugno i mewn i ryfelgarwch 1914. Byddai'r Waldo ifanc wedi clywed llawer am Willie, mab y Parchedig John Jenkins, oedd yn gyfaill mawr i'w dad ac fel y bu iddo gael ei garcharu am iddo wrthod ymladd.

Fe gofiai Waldo yn dda fel y cafodd, yn ddeg mlwydd oed, ei gyfareddu wrth wrando ar ei dad yn darllen cerdd T.E. Nicholas, Gweriniaeth a Rhyfel. Ac nid dibwys fyddai'r pwyslais a gaed yn y broydd hynny ar "agwedd ymarferol a chymdeithasol Cristionogaeth gyda sêl dros deyrnas Dduw ar y ddaear"!

Dyna'r fagwriaeth a'r dylanwadau a roes i Waldo ei atgasedd at y pwerau sy'n treisio a chaethiwo a'i alwad am hybu brawdoliaeth a chyfeillach.

Cawn y nodyn hwn gyntaf yn 1931 yn ei gân i'r Hen Allt. Cafodd hon ei thorri lawr "i borthi uffern yn ffosydd Ffrainc trwy'r pedair blynedd ddu" ond bellach yr oedd yn ail dyfu.

A llywodraethau dynion a'u dyfeiswyr
Yn llunio arfau damnedigaeth fwy.

Yn Nhŷ'r Arglwyddi yn 1938 galwodd yr Arglwydd Strabolgi am fabwysiadu mesur gorfodaeth filwrol. Ymatebodd Waldo gyda'i gerdd Y Tŵr ar Graig gyda'r Tŵr yn arwyddo pŵer treisiol.

Ôl hen ryfel a welais
Y cysgod trwm lle bu trais.

Cafodd neges heddwch le amlwg ym marddoniaeth Waldo trwy gyfnod y rhyfel. Yn ei gerdd Plentyn y Ddaear fe wêl oruchafiaeth y bychain ar y treiswyr:

Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain,
Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr,
Daw bore ni wel ond brawdoliaeth
Yn casglu teuluoedd y llawr.

A "Brawdoliaeth" yw testun un o'i gerddi grymusaf. Hon oedd cyfraniad Waldo i un o bamffledi Heddychwyr Cymru. Am fod "rhwydwaith dirgel Duw" yn cydio pawb ohonom mae'n dilyn ein bod i fyw fel brawdoliaeth. Ac felly:

Pa werth na thry yn wawd
Pan laddo dyn ei frawd

Fel y dywedir yn Y Tangnefeddwyr

Cennad dyn yw bod yn frawd.

Ym mis Chwefror 1942 ymddangosodd Waldo yn wrthwynebydd cydwybodol ger bron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin a chyflwyno datganiad na fu ei debyg. "War to me," meddai, "is the most monstrous violation of the spirit that society can devise".

Cafodd ryddhad diamod ond bu pwysau annifyr arno oherwydd ei safiad a gadawodd ei swydd yn ysgol Casmael ac aeth yn athro yn Ysgol Uwchradd Botwnnog. Yn dilyn marwolaeth drist ei briod, bu'n dysgu am bum mlynedd yn Lloegr cyn dychwelyd wedyn i Gymru.

Cyfansoddodd Waldo ei gerdd nodedig Cyfeillach yn ymateb i'r cyhoeddiad y byddai milwyr Prydain yn yr Almaen yn cael ei dirwyo pe baent yn dymuno Nadolig Llawen i'r Almaenwyr. Mynegodd ei hyder fod ysbryd cyfeillach yn drech na phob ymgais "i rannu'r hen deulu am byth".

Y newyddion fod y Swyddfa Ryfel â'i golygon ar diroedd y Preseli a'i cymhellodd i sgrifennu Preseli. Ynddi fe roes fynegiant i gri'r dewrion a fynnodd rwystro'r bwriad:

Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw.

Pan gyhoeddwyd ei gerdd fwyaf oll Mewn Dau Gae fe eglurodd iddo fynegi profiad a gafodd pan oedd yn ifanc sef "sylweddoli fod dynion yn gyntaf oll yn frodyr i'w gilydd".

Daeth Waldo i deimlo nad oedd tystio drwy eiriau yn ddigon. O 1949 ymlaen ni thalodd ei dreth incwm. Pan alwyd ef i gyfrif fe ddatganodd, "Gwrthodaf dalu'r dreth incwm tra bo gorfodaeth filwrol ar Gymru a thra bo'r Llywodraeth yn dal i wario mor wallgof ar baratoadau rhyfel".

Dwysawyd ei brotest wrth iddo glywed am erchyllterau'r rhyfel yng Nghorea a chafodd ei lethu gan ymdeimlad o euogrwydd oherwydd yr hyn a wnaed yn ei enw.

O ganlyniad i'w safiad daeth bwmbeilïaid a meddiannu ei eiddo, ac yna yn 1960 ac eilwaith y flwyddyn ddilynol cafodd ei garcharu yn Abertawe.

Dywedodd Lewis Valentine "na fu dim dewrach yn ein cenhedlaeth ni na safiad Waldo Williams yn erbyn rhyfel".

Bu cerddi Dail Pren, cerddi a rymuswyd gan safiad costus, yn ysbrydiaeth gyson i heddychwyr Cymru.

Ein braint ydyw atseinio'r ymbil ddwys hon.

Cod ni Waredwr y byd
O nos y cleddyfau a'r ffyn,
O! Faddeuant, dwg ni yn ôl
O! Dosturi casgl ni ynghyd
A bydd cyfeillach ar ôl hyn.

M. Islwyn Lake

Rhagor o bortreadau o heddychwyr Cymreig